Mae’n bosib iawn y bydd gigs Maes B, Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn cael eu cynnal yn hen adeilad y ‘Doctor Who Experience’ yn y Bae.

Mae golwg360 yn deall bod trefnwyr y brifwyl ddi-faes eleni yn ystyried yr adeilad, sydd erbyn hyn yn wag, ar gyfer cynnal gigs pobol ifanc.

Dydi’r Eisteddfod Genedlaethol ddim yn cadarnhau nac yn gwadu’r sïon sy’n dew yn y brifddinas.

Fe gaeodd y Doctor Who Experience ei ddrysau am y tro olaf ym mis Medi 2017 wedi pum mlynedd o gynnal arddangosfa y gyfres deledu yno. Mae’r adeilad bellach yn wag.

“Yn y broses o gadarnhau lleoliadau”

Mae llefarydd ar ran yr Eisteddfod yn dweud eu bod nhw “yn y broses o gadarnhau’r lleoliadau penodol” ar gyfer gwahanol ddigwyddiadau.

Fydd yna ddim ‘Maes’ traddodiadol eleni, dim ffens i gadw pawb i mewn, na thâl mynediad ar gyfer mynd i ddigwyddiadau.

Yn ôl yr Eisteddfod, fe fydd digwyddiadau’n cael eu cynnal mewn “cyfuniad o adeiladau parhaol a strwythurau dros dro” o amgylch y Bae. Maen nhw eisoes wedi cadarnhau mai yn adeilad y Senedd y bydd y Lle Celf eleni.

“Unwaith y bydd ein holl drafodaethau wedi’u cwblhau, byddwn yn cyhoeddi union leoliad ein holl weithgareddau mewn da bryd cyn i docynnau fynd ar werth ar Ebrill 3.”