Heather Jones fydd yn derbyn y wobr am gyfraniad nodedig i fyd cerddoriaeth Gymraeg yn ystod seremoni wobrwyo flynyddol cylchgrawn Y Selar fis nesaf.

Fe fydd Heather Jones yn derbyn ei gwobr yn Aberystwyth ar Chwefror 16, wrth iddi berfformio mewn gig arbennig sy’n ddathliad o’i chyfraniad i gerddoriaeth Gymraeg gyfoes.

Mae eleni hefyd yn dynodi hanner can mlynedd ers iddi ryddhau ei chynnyrch cerddorol unigol cyntaf, sef yr EP Caneuon Heather Jones, er iddi fod yn wyneb adnabyddus ar lwyfannau Cymru ers dechrau’r 1960au pan oedd yn aelod o’r grŵp Y Cyfeillion, a gafodd ei ffurfio yn Ysgol Cathays ym 1964.

Ers hynny, bu’n aelod o’r grŵp Y Bara Menyn, gyda’i chyd-aelodau Geraint Jarman a Meic Stevens, ac mae wedi bod yn rhan o’r sin gerddoriaeth Gymraeg byth oddi ar hynny.

 

Fe fydd Heather Jones yn cael ei chefnogi yn ystod y noson gan y gantores o Gaernarfon, Alys Williams.