Mae’r canwr a’r actor David Cassidy wedi marw’n 67 oed.

Roedd e wedi bod yn dioddef o ddementia a diffyg ar ei organau, ac fe fu farw yn yr ysbyty.

Dywedodd llefarydd ei fod e wedi marw “gyda llawenydd yn ei galon ac yn rhydd o’r boen oedd wedi gafael ynddo ers cyhyd”.

Fe fydd yn cael ei gofio am ei ran yn y gyfres deledu The Partridge Family, a chaneuon fel How Can I Be Sure.

Gyrfa

Roedd y gyfres deledu’n cyd-daro ag un o’i ganeuon mawr cyntaf, I Think I Love You ac erbyn diwedd 1970, roedd e eisoes wedi ennill Sengl y Flwyddyn ac wedi cael sawl enwebiad Grammy.

Ar ei anterth, roedd ganddo fe fwy o aelodau yn ei glwb cefnogwyr nag Elvis Presley a’r Beatles, ac mae ei ganeuon wedi gwerthu mwy na 30 miliwn o weithiau.

Fe gydiodd alcoholiaeth ynddo ar ôl i’w yrfa deledu ddod i ben ond fe geisiodd ailafael yn ei yrfa yn yr 1980au, gan gyhoeddi’r albwm Romance a chael cynnig rhan mewn nifer o sioeau ar lwyfannau Broadway a’r West End.

Yn 2015, fe ddaeth cadarnhad ei fod yn fethdal.

Roedd e wedi priodi tair gwaith, ac roedd ganddo fe fab a merch.