Gruff Rhys fydd prif atyniad y Park Stage yng Ngŵyl Glastonbury eleni.

Mae dros wythnos bellach ers iddo ryddhau ei sengl ddiweddara, ‘Honey All Over’, ac fe fydd y canwr o Fethesda yn mynd ar daith yn yr Hydref i hyrwyddo’r cynnyrch diweddara’.

Wedi iddo ymddangos fel y prif act ar un o brif lwyfannau gŵyl fyd-enwog Glastonbury ar Fehefin 26, bydd yn mynd ar daith yn yr hydrefn gyda’r band syrff Cymraeg Y Niwl, sy’n cynnwys Alun Tan Lan a Gruff Eitha Tal ffranco.

Taith Gruff Rhys a’r Niwl:

Llandudno: Theatr Gogledd Cymru (Hydref 2)
Dulun: Olympia Theatre (3)
Cardiff: Neuadd Dewi Sant (5)
Leeds: Canolfan Wyddelig (6)
Manceinion: Manchester Central Methodist Hall (7)
Caeredin: Edinburgh Bongo Club (8)
The Middlesbrough Crypt (9)
Reading Concert Hall (11)
London O2 Shepherds Bush Empire (12)
Eglwys Ashford St Mary’s (13)