Mae aelodau’r grŵp Race Horses yn cynnal gig ‘munud olaf’ ym Mangor y penwythnos yma wedi i ŵyl ‘Tripfest’ gael ei chanslo’r penwythnos yma.

Roedd yr ŵyl dridiau i fod i gael ei chynnal ar Ystâd y Faenol, gan ddechrau ddydd Gwener ond yn ôl gwefan y digwyddiad mae gwerthiant tocynnau isel yn golygu eu bod wedi gorfod canslo.

Gig munud olaf

I geisio llenwi’r bwlch mae aelodau’r Race Horses wedi penderfynu cynnal gig yng nghanol Bangor gyda rhai o’r bandiau oedd i fod i chwarae yn Tripfest.

“Roedden ni fod i chwarae yng ngŵyl Tripfest penwythnos yma ond mae hwnnw wedi’i ganslo felly rydan ni wedi penderfynu trio trefnu hwn munud olaf”, meddai Gwion Llewelyn, drymiwr y Race Horses wrth Golwg360.

Mae’r gig i gael ei gynnal yng nghlwb Base ar stryd fawr Bangor, ac fe fydd We Are Animal, Yucatan a Gintis yn ymuno â’r Race Horses ar y llwyaf.

Nôl ar y lôn

Fis diwethaf fe dorrodd Golwg360 y newyddion am newidiadau i aelodaeth y Race Horses, gyda’r gitarydd Alun Gaffey yn penderfynu gadael y grŵp.

Nos Sadwrn diwethaf, roedd y Race Horses yn chwarae eu gig cyntaf gydag aelodau newydd ym Metws y Coed.

“Rydan n’n falch iawn i fod nôl ar y lôn ac yn chwarae stwff yr albwm newydd yn fyw” meddai Gwion Llewelyn.

“Mae genom ni lineup newydd, ac mae hynny’n adlewyrchu sŵn newydd yr albwm nesaf” ychwanegodd.

Fe fydd yr albwm newydd, ‘Furniture’ allan tuag at ddiwedd yr haf yn ôl Gwion.

Mae’r gig nos Sadwrn yn dechrau am 8:30, gyda thocynnau’n £3 ar y drws. Mae manylion llawn ar dudalen Facebook y gig.