Sibrydion
 Bydd gŵyl undydd yn digwydd tu allan i far Gwdihw yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn, Mai 28.

Dyma ail flwyddyn ‘Gŵyl Nyth Tu Allan’, ac eleni bydd rhai o berfformwyr gorau’r Sîn Roc Gymraeg yn chwarae, gan gynnwys y Sibrydion, Violas, Mr Phormula a Sen Segur a Georgia Ruth Williams.

Bydd Alun Gaffey gynt o’r Race Horses yn chwarae set.

Band arall sy’n gwneud eu hymddangosiad cyntaf yn y brifddinas yw Poket Trez sy’n cynnwys cyn-aelod o Zabrinski, a bydd gwesteion arbennig yn ymuno â nhw ar y llwyfan.

Yn ogystal â’r gerddoriaeth bydd stondin fwyd Gwdihŵ a chasgliad o hen ffilmiau Caerdydd yn cael eu dangos gan Archif Ffilm a Cherddoriaeth yr Amguddfa Genedlaethol.

Am ragor o wybodaeth ewch i’r dudalen Facebook – Gŵyl Nyth Tu Allan.