Clawr casgliad diweddar Steve Eaves.
Mae Owain Schiavone wedi dewis ei hoff ganeuon oddi ar Ffoaduriaid, casgliad diweddar o waith y canwr a’r bardd Steve Eaves…

10. ‘Noson arall hefo’r drymiwr’ – trac o’r albwm Croendenau a chyfnod Dafydd Dafis ym mand Steve. Hon ydy’r enghraifft orau o’i gyfraniad o i sŵn y band – mae’r sax a’i lais cefndir yn wych. Cân ‘dawns olaf’ mewn disgo ysgol!

9.  ‘Affrikaners y Gymru newydd’un o’r caneuon mwyaf egnïol ar y casgliad, ac un o’r anthemau mwyaf o’r cyfnod. Mae’r newid cywair hanner ffordd trwodd cyn y “Felly mae hi ar y ‘ffrynt lein’ yma…” yn glyfar iawn.

8. ‘Iesu Grist ar y trên o Gaer’ trac agoriadol yr albwm olaf ar y casgliad, sef Iawn. Mae’n cael ei gyrru gan gonga Gwyn Maffia. Mae hon wedi cael ei chwarae tipyn ar y radio dros y ddegawd ddiwethaf ac yn ffefryn i lawer.

7. ‘Maddeuant mor felys’ – roedd  hi’n ddewis anodd rhwng hon a ‘Cymylau mewn Coffi’ – am ryw reswm dw i’n rhoi’r ddwy yn yr un categori, er eu bod nhw’n dod o gyfnodau gwahanol iawn. Y gân olaf ar Iawn, a’r gân sy’n cloi’r casgliad arbennig yma. Cân am gariadon yn trio cymodi ar ôl ffrae, ond bod y ddau’n rhy ystyfnig i wneud hynny’n iawn. Er bod y thema’n awgrymu fel arall mae’n gân ysgafn a hapus iawn. 

6. ‘Rhai Pobl’syml ond hynod, hynod effeithiol. Alaw ysgafn gitâr ac allweddellau yn gyfeiliant i sibrwd canu Steve. Mae’r hon yn enghraifft dda o Steve Eaves y bardd gyda’r gwpled gyntaf yn cydio’n syth – “Rhai pobl maen nhw mor groendenau maen nhw’n teimlo planedau’n troi”.

5. ‘Che Guevara’anthem arall o’i gyfnod mwyaf gweithgar gyda Chymdeithas yr Iaith. Cyfansoddwyd hon fel teyrnged a chefnogaeth i Alun Llwyd a Branwen Niclas a garcharwyd am weithredu dros y Gymdeithas ym 1991. Mae’r gân ar yr albwm amlgyfrannog O’r Gad, ac o drawiadau cyntaf y drymiau ar y dechrau,  mae’n adlewyrchu cyffro gweithredu’r Gymdeithas yn y cyfnod hwn.

4. ‘Pendramwnwgl’ro’n i wedi anghofio am hon cyn i mi ei chlywed yn fyw wythnos ddiwethaf. Un fach arall araf hyfryd lle mae lleisiau Steve a Jackie Williams yn plethu’n berffaith ar y gytgan. A sôn am y gytgan – bydd hi’n sownd yn eich pen am oriau ar ôl ei chlywed.

3. ‘Traws Cambria’mae gen i a Hywel Gwynfryn rywbeth yn gyffredin yn ôl y sôn … sef ein hoffter o’r gân yma. Mae’n debyg bod Hywel Gwynfryn wedi datblygu rhyw fath o obsesiwn gyda hon yn ystod y 1980au a’i fod wedi ei chwarae drosodd a thro ar ei sioe Radio Cymru. Un o rinweddau amlycaf cerddoriaeth Steve Eaves ydy ei allu i ddod â deigryn i lygad y gwrandäwr, ac mae ‘Traws Cambria’ yn gwneud hynny.

2. ‘10,000 Folt Trydan’rhywbeth arall sy’n amlwg yn llawer o’r caneuon cyflymach ydy’r egni nerfus yma sy’n adeiladu’n raddol yn ystod trac, ac mae hon yn llawn o hynny. Mae caneuon fel ‘10,000 Folt Trydan’, ‘ Affrikaners…’ a ‘Che Guevara’ yn wych i’w gweld mewn perfformiadau gyda’r band. Croendenau ydy fy hoff albwm o’r casgliad yma, ac mae hon yn un o’r traciau gorau arni.

1. ‘Sanctaidd i mi’ – un arall sydd ar Croendenau. Hon ydy’r gân, yn fwy na’r un arall, sy’n crynhoi cerddoriaeth Steve Eaves i mi. Alaw gofiadwy, geiriau o farddoniaeth pur a mwy o emosiwn a theimlad na ellir ei gludo ar gefn lori Mansel Davies. Rhwng y ddau bennill gyntaf, fe geir darn athrylithgar o gyfansoddi wrth i’r riff bach gitâr gyflwyno’r drymiau er mwyn codi’r tempo. “Dw i wedi dod yn ddigon pell i wybod, does ‘na ddim byd yn para’n hir: tad a mab neu dau gariad law yn llaw, mae pawb angen cyffwrdd rhywun yn y pen draw”. Mae hon yn codi ias bob tro.

Ydych chi’n cytuno gyda dewis Prif Weithredwr Golwg360 sydd hefyd yn golygu’r cylchgrawn pop Y Selar? Gadewch i ni wybod…