Owain Roberts
Mae’r cerddor electronica Owain Gruffudd Roberts yn credu fod ei EP newydd yn brawf ei fod yn wedi dechrau saernïo ei grefft.

Mae’r athro cerddoriaeth sy’n byw yn Salford erbyn hyn wedi bod yn recordio cerddoriaeth electronig dan yr enw Messner ers rhai blynyddoedd bellach.

Rhyddhaodd ei albwm cyntaf, ‘Em Am’, yn Ebrill 2008 fel rhan o don o gerddoriaeth electronig Cymraeg a ddaeth i’r golwg yn dilyn albyms llwyddiannus Jakokoyak a Yucatan cyn hynny.

Daeth dilyniant yr albwm wythnos diwethaf ar ffurf yr EP ‘Paid a Gofyn’ ar label MoPaChi.

Cafodd yr EP ei recordio ym Manceinion llynedd, gyda’r mwyafrif o’r deunydd yn cael ei recordio yn ei ystafell fyw.

‘Deall be dwi’n neud’

“Mae’r EP newydd yn ddatblygiad o’r ffaith fy mod yn deall yn well be dwi’n neud efo’r dechnoleg erbyn hyn” meddai Owain Roberts wrth Golwg 360.

“Bwriad yr EP oedd i gynhyrchu pedair cân annibynnol yn hytrach nag albwm o ganeuon sydd yn clymu efo’i gilydd, fel yr oedd Em Am i fod.”

Ers rhyddhau Em Am, mae Owain wedi bod yn canolbwyntio ar gynnig ei arbenigedd i artistiaid eraill gyda’i brosiect DILEU.

Dan yr enw hwnnw mae wedi ailgymysgu caneuon Y Sibrydion, Brigyn, Georgia Ruth Williams, Huw M ac Alun Tan Lan ymysg eraill.

Ymarferol

Dywed Owain fod yr EP yn llawer mwy “ymarferol” na’i albwm cyntaf, gan olygu bod bywyd yn haws pan mae’n dod at berfformio’n fyw.

“Mae’r EP hefyd yn llawer mwy ymarferol nag Em Am” meddai.

“Gydag Em Am roedd nifer fawr o offerynnau gwahanol oedd yn ei gwneud bron yn amhosib gwneud sioe dda yn fyw.”

Er ei fod yn gwneud taith fer i hyrwyddo’r EP newydd, gan gynnwys gig yn Llundain wythnos diwethaf, does dim llawer o gynlluniau i berfformio yng Nghymru yn y dyfodol agos. Yr unig berfformiad byw sydd wedi’i drefnu yn ei famwlad ar hyn o bryd yw hwnnw yng Ngŵyl Gardd Goll ym mis Gorffennaf.

Mae’r EP ‘Paid a Gofyn’ allan rŵan ar label MoPaChi ar gryno ddisg ac i’w lawr lwytho ar-lein.