Fats Domino (Llun: Commons Wikimedia CC0)
Mae un o berfformwyr roc a rôl mwyaf dylanwadol yr 1950au, Fats Domino, wedi marw yn 89 oed.

Gwerthodd 110 record yn ystod ei yrfa gan gynnwys 22 miliwn sengl, gyda ‘Blueberry Hill’ a ‘Ain’t That A Shame’ ymysg ei ganeuon mwyaf poblogaidd.

Fats Domino oedd un o’r cerddorion cyntaf i ymuno â’r ‘Rock and Roll Hall of Fame’ a chafodd un o’i ganeuon ei ychwanegu i gofrestrfa Llyfrgell y Gyngres Genedlaethol.

Roedd yn enwog am ei lais bariton ac am ganu’r piano ag egni – roedd yn tueddu perfformio wrth sefyll i fyny.

Camodd i ffwrdd o lygaid y cyhoedd wrth dyfu’n hŷn gan osgoi cyfweliadau ac ymddangosiadau cyhoeddus.