Stereophonics
Caneuon y grŵp Stereophonics sy’n cael eu chwarae’n aml ar deledu, radio a mannau cyhoeddus yng Nghymru ers 2005.

Yn ôl gwaith ymchwil y corff trwyddedu, PPL, grŵp y prif ganwr, Kelly Jones, a gyrhaeddodd frig y rhestr o artistiaid Cymreig sy’n cael eu chwarae fwyaf yng Nghymru.

Y gantores o Wynedd, Duffy, ddaeth yn ail a’r Manic Street Preachers oedd yn drydydd yn yr un rhestr.

Bonnie Tyler sy’n bedwerydd ar y rhestr, tra bod Feeder, Charlotte Church a Shakin’ Stevens hefyd yn ymddangos yn y deg uchaf.

Daeth y Fones Shirley Bassey yn 11eg ar y rhestr, a gafodd ei chreu cyn y seithfed Wobr Gerddoriaeth Gymreig flynyddol dydd Gwener.

Mae 12 albwm ar y rhestr fer, gydag un o’r rheiny, albwm Bendith, yn gwbwl Gymraeg ei iaith.

Dyma’r rhestr lawn:

Gruff Rhys – Set Fire to the Stars

Baby Queens – Baby Queens

Bendith – Bendith

Georgia Ruth – Fossil Scale

Mammoth Weed Wizard Bastard – Y Proffwyd Dwyll

H. Hawkline – I Romanticize

Kelly Lee Owens – Kelly Lee Owens

Toby Hay – The Gathering

The Gentle Good – Ruins / Adfeilion

Sweet Baboo – Wild Imagination

HMS Morris – Interior Design

Cotton Wolf – Life in Analogue