Mae ceisiadau wedi agor heddiw (Hydref 2) ar gyfer cronfa arbennig i fandiau ac artistiaid ledled Cymru.

Eleni mae’r Gronfa Lawnsio yn cynnig hyd at 20 grant gwerth £2,000 yr un ac mi fydd y ceisiadau yn dod i ben am hanner nos Hydref 30.

Cyngor Celfyddydau Cymru a BBC Cymru sydd yn gyfrifol am y gronfa – a hynny drwy brosiect Gorwelion – ac mae bandiau ac artistiaid o Gymru wedi cael eu hannog i ddanfon ceisiadau.

Mae’r Cydlynydd Gorwelion, Bethan Elfyn, yn cydnabod nad oes llawer o “gyfalaf” yn y diwydiant gerddoriaeth, ond mae’n gobeithio “rhoi hwb” i gerddorion trwy’r gronfa.

“Rhoi hwb”

“Dydy e ddim yn ddiwydiant sydd yn creu llawer o gyfalaf – yn enwedig i’r bandiau,” meddai Bethan Elfyn wrth golwg360.

“Bandiau sydd ar waelod y pentwr a nhw sy’n creu’r gerddoriaeth … Mae pethe’n costio llawer o arian – mynd i deithio a theithio o gwmpas y wlad i chwarae gigs.”

“Wrth roi hwb i nifer bach o bobol dw i’n gobeithio yn gyffredinol ein bod ni’n codi lefel proffesiynoldeb y sin yng Nghymru. A dw i wir yn ffyddiog ac yn gobeithio cawn ni weld lot o fandiau ifanc yn trio.”