Y Beatles yn 1967 (Parlophone Music Sweden CCA 3.0)
Y digwyddiadau yng Nghymru union hanner can mlynedd yn ôl oedd dechrau’r diwedd i fand pop mwya’r byd, yn ôl darlithydd cerddoriaeth.

Fe fydd Prifysgol Bangor yn cofio heddiw am y dydd pan ddaeth y Beatles i’r ddinas gan aros yn adeiladau’r Coleg Normal, sydd bellach yn rhan o’r Brifysgol.

Tra oedden nhw yno, fe ddaeth y newydd fod eu rheolwr, Brian Epstein, wedi marw.

“Marwolaeth Epstein oedd dechrau chwalfa’r grŵp,” meddai’r Athro Chris Collins, Pennaeth Cerddoriaeth Prifysgol Bangor heddiw.

Yr ymweliad

Ar 25 Awst, 1967, fe ddaeth y Beatles i Fangor i eistedd wrth draed guru o’r enw y Maharishi Mahesh Yogi, gan achosi anhrefn yn y Normal wrth i gannoedd o ffans ifanc sgrechlyd dyrru yno.

Ond fe gafodd eu sesiynau myfyrio eu chwalu pan ddaeth neges i ddweud bod Brian Epstein wedi mawr ar ôl cymryd gormod o dabledi cysgu.

“Hebddo fo, mi ddechreuodd y Beatles golli eu hundod pwrpas, gan wahanu un y diwedd i ddilyn diddordebau personol,” meddai Chris Collins.

“Ac yntau’n ddyn busnes profiadol ac athro artistig, fo oedd yr angor oedd wedi sadio llong y Beatles mewn llawer o stormydd.”

  • Roedd gan newyddiadurwyr lleol ran yn y stori hefyd – Iori Roberts o’r Daily Post oedd un o’r rhai cynta’ i glywed am yr ymweliad ac fe gafodd cyfweliad rhwng y Beatles a Derek Bellis o HTV Cymru ei ddarlledu rownd y byd.