George Amor
Heddiw mae’r band bop seicadelig Omaloma yn anelu am y sêr wrth iddyn nhw gyhoeddi eu sengl newydd ar y diwrnod maen nhw yn chwarae yng Ngŵyl Latitude yn Suffolk.

Â’i sain felodig a breuddwydiol mae ‘Aros o Gwmpas’ yn dilyn trywydd y ddwy sengl, ‘Ha Ha Haf’ ac ‘Eniwe’ sydd eisoes wedi eu rhyddhau gan y prosiect cerddorol o Benmachno.

Ond, er hynny mae’r gân yn cyflwyno agweddau mwy electronig a fwy lliwgar, sain sydd yn chwalu hualau disgyrchiant yn ôl y cyfansoddwr o fri sy’n gyfrifol am Omaloma, George Amor.

“Dw i ddim yn dda iawn am labelu miwsig ond fel jôc sydd wedi troi mewn i rywbeth sydd ddim yn jôc, rydan ni’n cyfeirio at beth mae Omaloma yn gwneud ar hyn o bryd fel space pop.” meddai wrth golwg360. “Felly spacepop ydy beth sy’n digwydd. Mae’r label yn half-hearted ond hefyd yn addas.”

“Mae’r gân yn hapusach o lawer nag ‘Eniwe’ ac mae’n fwy lliwgar. Mae’n hafaidd. Mae electric drums arno fo. Dyw’r gan ddim o reidrwydd yn adlewyrchu beth fydd yn dod nesaf genna’i.”

Ffuglen wyddonol

Un agwedd drawiadol o’r sengl yw’r gwaith celf, sef delwedd liwgar o’r gofod sydd yn meddu ar naws yr 1980au – nid yn annhebyg i’r gân ei hun.

Yr arlunydd Paula Castro o Santiago yn Chile wnaeth greu’r ddelwedd- hi hefyd oedd yn gyfrifol am waith celf ‘Ha Ha Haf’-  ac mae George Amor yn gobeithio bydd y berthynas artistig rhyngddyn nhw yn parhau yn y dyfodol.

“Wnes i ddod ar draws ei gwaith ar Instagram,” meddai.  “Mae genna’i lot o ddiddordeb mewn science fiction a pan nes i weld ei gwaith hi am y tro cyntaf, oedd e’n adlewyrchu be oeddwn i’n gweld yn fy mhen pan oeddwn i’n creu’r caneuon yma. Dw i wedi penderfynu aros gyda hi a dw i’n gobeithio cyd weithio gyda hi eto yn y dyfodol.”

Mae ‘Aros o Gwmpas’ yn cael ei chyhoeddi ar label Recordiau Cae Gwyn.