Mae Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd wedi dadorchuddio murlun newydd i ddathlu’r holl fandiau sydd wedi chwarae yno ers 1983.

Mae’r murlun yn cynnwys enwau nifer o fandiau sydd wedi chwarae yn y clwb – pawb o Ffa Coffi Pawb i Coldplay a Kasabian.

Ac yn ôl Prif Weithredwr Clwb Ifor Bach, Guto Brychan, daw fel symbol o bwysigrwydd cerddoriaeth byw i’r brifddinas.

“Mi’r oeddwn i wedi bod yn trafod gosod darn o waith celf yn y clwb ac yn amlwg gyda’r holl sylw ar stryd Womanby ar hyn o bryd roedd rhestru bandiau yn teimlo fel rhywbeth eithaf pwysig i’w wneud,” meddai wrth golwg360

“Mae hi’n bwysig fod pobol yn cael gweld arwydd gweledol o’r cyfraniad ry’ ni wedi neud dros y 30 blynedd ddiwethaf – i bobol cael gweld pa fandiau sydd wedi chwarae yma.”

Er bod y murlun yn cynnwys nifer o fandiau enwog ac adnabyddus o dramor sydd wedi chwarae yng Nghlwb Ifor Bach, mae’r clwb wedi sicrhau eu bod wedi cynnwys artistiaid lleol ac artistiaid Cymraeg hefyd.

Achub Stryd Womanby

Mae’r dadorchuddiad yn cyd daro â gorymdaith Save Womanby Street, sef ymgyrch i ddiogelu sin cerddoriaeth byw Stryd Womanby yn y brifddinas rhag cynlluniau adeiladu a chwynion sŵn.

Bydd gorymdaith yfory yn dechrau y tu allan i Glwb Ifor Bach am 4yh ac yn ymlwybro tuag at neuadd y ddinas lle fydd arweinwyr partïon lleol Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur yn annerch y dorf.

“Y bwriad ydy cael anerchiad gan arweinwyr  y partïon gwleidyddol lleol sy’n sefyll yn etholiad y cyngor wythnos nesaf,” meddai Guto Brychan.

“Rydym yn mynd i ofyn iddyn nhw roi syniad o be maen nhw’n bwriadu gwneud yn dilyn yr etholiad i geisio sicrhau dyfodol, nid un unig i’r stryd, ond i gerddoriaeth byw yn y ddinas.”