Gwyl Glass Butter Beach (llun hyrwyddo)
Mae gwynt a glaw wedi gorfodi gŵyl gerddoriaeth ym Mhen Llŷn i ganslo’r bandiau oedd i fod i chwarae ar eu prif lwyfan.

Roedd enwau mawr i fod i berfformio yng ngŵyl Glass Butter Beach yn Llanbedrog heddiw a fory, ond mae’r trefnwyr yn dweud fod “tywydd eithafol iawn” wedi’u gorfodi i ganslo’r digwyddiadau.

Neithiwr, roedden nhw wedi rhybuddio y byddai perfformiadau’r prif lwyfan yn hwyrach yn cychwyn oherwydd y tywydd.