Mae sengl newydd y cerddor Gruff Rhys yn “gân serchus sydd yn croesi ffiniau rhyngwladol ac yn rhoi’r ddadl bositif dros  aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd” cyn y refferendwm ym mis Mehefin.

‘I Love EU’ yw’r gân gyntaf iddo ryddhau ers ei albwm American Interior yn 2014, ac fe ddywedodd Gruff Rhys fod y gân wedi dod iddo wrth “synfyfyrio wrth drwsio fy radio”.

Er ei fod yn cyfaddef nad oes ganddo arbenigedd gwleidyddol y tu hwnt i “wleidyddiaeth ac economeg canu pop”, ychwanegodd ei fod yn teimlo “rhywsut, yn y funud sydd ohoni, fod gwell gobaith i’r Cymry ac i amgylchedd Cymru o fewn yr Undeb Ewropeaidd”.

‘Cameron a’i griw elitaidd’

“Yn amlwg mae angen diwygio’r gyfundrefn afiach annemocrataidd bresennol sydd ym Mrwsel,” meddai Gruff Rhys.

“Ond ddim yn y ffyrdd yr awgrymwyd gan Cameron a’i griw elitaidd. Efallai yn debycach i beth o syniadaeth yr economegydd penfoel o Wlad Groeg, Yanis Varoufakis, sydd â gwell profiad o drin ag effeithiau eithafol y ‘Troika’ ar wlad gymharol fach.

“Cychwyn ymgyrch felly fydd y refferendwm – nid ei diwedd hi.”

Cân Saesneg

Oes rheswm penodol felly pam fod Gruff Rhys, sydd hefyd yn sgwennu yn y Gymraeg wrth gwrs, wedi penderfynu ysgrifennu’r gân hon yn Saesneg?

“Wel… ys dywed Dafydd Iwan, ‘Pam fod eira’n wyn, gyfaill?’,” meddai prif leisydd y Super Furry Animals.

“Pwy a ŵyr beth sy’n gyfrifol am awen adloniant ysgafn mor afreolus.”

Mae fideo’r gân ar gael i’w gweld yma:

Bydd ‘I Love EU’ yn cael ei ryddhau ar blatfformau digidol yn unig ar 22 Ebrill.