Mae trac newydd Gwyllt wedi ei hysbrydoli gan salwch aelod o’i deulu yn y flwyddyn diwethaf.

Prosiect unigol Amlyn Parry o Lanrug yw Gwyllt, ac mae ‘Camau Bach’ yn cwmpasu’r cyfnod hwnnw.

Meddai Amlyn Parry: “Mae’r gân hon wedi ei hysbrydoli gan gyfnod anodd wrth orfod delio gyda salwch aelod agos o’n nheulu. Mae’n sôn am fywyd a sut mae amgylchiadau pobol yn gallu newid yn sydyn iawn.

“Roedd y cyfnod hwnnw’n anodd iawn i mi a fy nheulu, ond mae wedi profi i mi fod bywyd yn brofiad anhygoel.”

Mae Gwyllt wedi rhyddhau dwy albwm yn y blynyddoedd diwethaf ac mae’n adnabyddus am sgwennu caneuon mewn steiliau amrywiol – o reggae i roc, ac o werin i dub.

Proseict eclectic

Mae’r sengl ddiweddaraf yn mynd â Gwyllt i diriogaeth hip hop. Nid y tro cyntaf iddo ryddhau cân rap gan ei fod wedi cydweithio â Band Pres Llareggub ar ‘Foxtrot Oscar’ sydd wedi ei henwebu am wobr Cân Orau’r Flwyddyn yng Ngwobrau’r Selar nos yfory.

Yn ôl Amlyn Parry, prosiect “eclectig” yw Gwyllt ca mae o “yn y stage hip hop ar hyn o bryd”.

Papua Gini Newydd

Eleni hefyd, bydd Amlyn Parry yn teithio i Papua Gini Newydd i weithio gyda cherddorion lleol.

“Dw i wedi bwcio awyren i Papua Gini Newydd a byddaf yn treulio tua mis yno yn teithio, jamio a recordio yn mis Awst eleni. Dw i’n gobeithio ymweld â phentrefi gwahanol a phrofi’r diwylliannau eang sydd i’w cael yn y wlad.

“Ond cyn i mi fynd byddaf yn gobeithio cael ambell i gân yn barod i fynd gyda mi, felly dw i’n siŵr fydd yna ychydig bach o reggae Papua New Guinea style ar y ffordd cyn Awst!”

Mae modd lawrlwytho ‘Camau Bach’ am ddim o Soundcloud: https://soundcloud.com/gwyllt1/camau-bach-gwyllt