Dydd Gwener ar faes yr Eisteddfod, ac mae hynny ond yn golygu un peth (heblaw am y cadeirio, wrth gwrs!) – podcast olaf Golwg360 o’r wythnos!

Gwenno Saunders, enillydd Albwm y Flwyddyn, sy’n ymuno â Iolo Cheung ar y pod heddiw i sgwrsio am y wobr a’i phrosiectau cerddorol diweddar.

Mae Llewelyn Hopwood o Bromas hefyd yn ymuno â ni ar y pod am sgwrs (cymaint yw ei frwdfrydedd i sgwrsio â Gwenno!).

Ac wrth drafod perfformio ym Maes B, mae gan y ddau ohonyn nhw ddigon i’w ddweud am rôl merched o fewn y sîn roc Gymraeg yn ogystal ag apel i weld mwy o gerddorion amgen yn cael lle amlycach.

Gallwch wrando ar y pod yma: