Bromas yn chwarae Sesiwn Sgwrs a Chân Golwg360
Os fyddwch chi draw yn Eisteddfod Meifod eleni un peth fyddwch chi’n sicr ddim yn brin ohono fydd cyfle i wrando ar rhywfaint o gerddoriaeth – boed hynny ar lwyfan y maes, y Tŷ Gwerin a Chaffi Maes B, neu gigiau nos Maes B a Chymdeithas yr Iaith.

Drwy gydol yr wythnos fe fyddwn ni hefyd yn dod a sesiynau Sgwrs a Chân Golwg360 i chi o’r maes, gan fachu gair â rhai o’r artistiaid a’u clywed nhw’n chwarae ambell diwn fach.

Yn ein sgwrs gyntaf fe fu Llewelyn Hopwood yn holi Joseff Owen a Marged Gwenllian o fand Y Cledrau, a’r tro yma Llewelyn ei hun sydd o flaen y camera gyda gweddill bechgyn Bromas.

Llynedd fe ryddhaodd Bromas eu hail albwm, Codi’n Fore, a’r wythnos hon mae ganddyn nhw sawl perfformiad yn yr Eisteddfod gan gynnwys ar lwyfan Maes B nos Fercher.

Gallwch wylio’r Sgwrs a Chân yma gyda Bromas yma, gan gynnwys fersiwn acwstig arbennig o’u cân ‘Byth ’di bod i Japan’:

Gallwch wrando i ragor o gerddoriaeth Bromas a chael rhagor o wybodaeth am y band ar eu tudalennau Soundcloud, Facebook a Twitter.