Aelodau band Y Ffug
Un peth dydych chi’n sicr ddim yn brin ohono ar faes Eisteddfod yr Urdd yw cerddoriaeth – boed hynny ar y llwyfan, y stondinau, neu allan ar y llwyfan awyr agored.

Drwy gydol yr wythnos hon mae golwg360 wedi bod yn sgwrsio â rhai o’r artistiaid sydd wedi mentro i’r maes yng Nghaerffili, gan ei holi nhw ynglŷn â’u prosiectau diweddaraf.

Ac fe fydd cyfle hefyd i chi glywed ambell gân gan y cerddorion hefyd, boed hi’n un o’u rhai gwreiddiol nhw neu’n fersiwn newydd o alaw adnabyddus.

Rydyn ni’n barod wedi cael sgwrs gyda Plu, Gildas, a Calan ond heddiw tro band o orllewin Cymru oedd hi, Y Ffug.

Mae’r band egnïol o Grymych yn cyfuno synau grynji pync gydag alawon cerddorol melodig sydd yn golygu eu bod nhw wedi gwneud eu marc ar y sin roc Gymraeg.

Yn gynharach heddiw fe aeth Gwion Llŷr draw i wrando a chael sgwrs gyflym â’r pedwarawd – Iolo, Billy, Joel, a Henry – a thrafod y sîn gerddoriaeth Gymraeg yn gyffredinol.