Cpt Smith wedi eu dewis gan Y Selar
Mae cylchgrawn cerddoriaeth gyfoes Y Selar wedi cyhoeddi mai’r band ifanc o’r Gorllewin, Cpt Smith, yw’r diweddaraf i ymuno â’u Clwb Senglau.

Bydd sengl gyntaf y band, ‘Resbiradaeth’, ar gael i’w lawr lwytho yn ddigidol o ddydd Llun 25 Mai, a hynny ar ôl i’r grŵp gael ymateb da ar Soundcloud i’w traciau demo  ‘Yr Estron’ a ‘Pobol Mân’.

Neges wleidyddol llawn angst sydd i’r gân pync-amgen, sy’n cael ei gyrru gan riff gitâr a llinell fas gref, yn ôl y canwr a’r basydd Ioan Hazell,.

“Mae’n gân eitha’ gwleidyddol, sy’n ffocysu ar y sefyllfa dan y Ceidwadwyr. Mae’n fath o alwad ar ein cenhedlaeth i ddeffro,” esboniodd Ioan Hazell.

Sŵn o’r Gorllewin

Pedwar disgybl ysgol yw aelodau Cpt Smith – Ioan Hazell (gitâr fas a phrif lais) a Lloyd Jackson (gitâr) o Ysgol y Preseli yng Nghrymych, ac Ellis Brown (gitâr) a Jack Brown (dryms) o Ysgol Mro Myrddin, Caerfyrddin.

Mae Ioan yn ffrindiau gyda Jack ac Ellis ers iddyn nhw fod yn yr ysgol gynradd, ac mae’r grŵp wedi bod yn chwarae ac ysgrifennu ers rhyw chwe mis bellach, gyda’u traciau Soundcloud yn cael ymateb da ac wedi cael eu chwarae ar Radio Cymru.

‘Resbiradaeth’, a gafodd ei recordio yn Stiwdio Sain yn Llandwrog gyda’r cynhyrchydd Sion Jones, yw’r chweched sengl i gael ei dewis ar gyfer Clwb Senglau’r Selar fel rhan o’r cynllun i roi sylw i fandiau newydd.

Ac yn ôl Owain Schiavone, Uwch-olygydd Y Selar, mae potensial gan Cpt Smith i efelychu llwyddiant rhai o fandiau eraill y cynllun gan gynnwys Estrons, Y Trŵbz, Ysgol Sul, Henebion a Terfysg.

“Dwi’n disgwyl ymateb da iawn i’r sengl, ac yn disgwyl i hynny roi llwyfan i Cpt Smith fynd ymlaen i greu tipyn o argraff,” meddai Owain Schiavone.

“Maen nhw’n grŵp ifanc iawn, ond cyffrous iawn a dwi’n disgwyl pethau mawr ganddyn nhw. Mae llawer o bobl wedi eu cymharu nhw â’r Ffug gan eu bod nhw’n dod o’r un ardal, a dwi’n ffyddiog iawn y byddan nhw’n cael impact tebyg, os nad mwy nag Y Ffug.”

Bydd Cpt Smith yn perfformio ar lwyfan agored maes Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili ar ddydd Iau 28 Mai fel rhan o slot dyddiol ‘Senglau’r Selar’ yno, ac mae modd archebu eu sengl newydd ‘Resbiradaeth’ ar iTunes nawr.