Miriam Elin Jones
Miriam Elin Jones sy’n holi sut orau i gloriannu ‘bwrlwm’ a ‘chyffro’ Gwobrau’r Selar …

Blwyddyn yn ôl mi wnes i adolygu Noson Wobrau’r Selar, ac er i mi fynychu eto eleni, dw i’n mynd i wneud rhywbeth bach yn wahanol na jyst ei ‘adolygu’.

Dau bwynt o’r Trydar-Fyd sydd wedi fy arwain at holi sut yn gwmws yr â rhywun ati i adolygu gig.

Mae’r cyntaf yn drydariad gan Steffan Dafydd, yn holi pam nad yw cylchgrawn Y Selar yn cynnwys adolygiadau gigs, ac ymateb criw’r Selar, sef bod adolygwyr yn dueddol o ddefnyddio’r un derminoleg dro ar ôl tro, gan beri i’r darllenwyr hen syrffedu.

Problem geirfa

Sylwaf fy mod innau’n defnyddio’r un ansoddeiriau stoc, er fy mod i’n ceisio defnyddio thesawrws i amrywio pethau.

Y geiriau ‘anhygoel’ a ‘gwych’ yw’r ddau sy’n dod i’m meddwl yn syth wrth feddwl am Noson y Gwobrau nos Sadwrn, a dyw ‘campus’, ‘rhagorol’ ac ‘arbennig’ (cynigion y thesawrws) ddim wir yn gweddu …

A sut arall fedrai ddisgrifio ‘perfformiad egnïol’ Canedlas, a hwythau eisoes wedi gwneud cryn dipyn o argraff gyda setiau ‘cofiadwy’?

Efallai nad oes gennym y derminoleg i drafod gigs – gair Saesneg yw ‘gig’, wedi’r cwbl, a beth yn y byd yw ‘line up’, ‘headline act’ a ‘set list’ yn Gymraeg?

Sut wedyn yr ydym yn mynd i fathu termau newydd? Ac os awn ati i wneud hynny, neu geisio normaleiddio geiriau ‘gwahanol’, sut yr ydym yn mynd i gael y darllenydd i ddeall ac i ddod i arfer â hwy?

Yn sicr, mae’n rhywbeth i gnoi cil yn ei gylch.

#AtgofionYSelar – pawb yn wahanol

Yr ail beth a’m trawyd wrth edrych ar ymatebion pobl i’r noson wrth ddefnyddio #AtgofionYSelar yw bod yna gymaint o brofiadau amrywiol, a’r rheini i gyd o’r un gig.

Roedd gan bawb uchafbwynt gwahanol – rhai yn rhestri set y Carcharorion a’u teyrnged i Merêd, eraill wrth eu boddau yn dawnsio i diwns Mr Phormula.


Un o #AtgofionYSelar Miriam - selfie efo Osian Candelas yn canu
Yn anffodus, mae yna hefyd garfan o bobl sy’n methu cofio’r digwyddiad o gwbl, diolch i brisiau rhad bar Undeb y Myfyrwyr yn Aberystwyth.

Wrth ystyried hynny, sut yn y byd all un person (fi) grynhoi digwyddiadau’r noson? Wrth Googlo ‘How to Write a Gig Review’, un o’r top tips oedd mynd o gwmpas yn cymryd nodiadau … ond gwn nad oeddwn yn rhyw awyddus i sefyll ar gyrion y dorf gyda phapur a beiro yn sgriblo nodiadau.

Yn ogystal â hynny, a fyddwn i wir wedi mynd i hwyl pethau fel y gwnes pe bawn wedi gwneud hynny?

Dathlu llwyddiant

Felly, dibynnaf ar fy nghof yn unig i grisialu’r hyn a feddyliais am drydedd seremoni wobrwyo’r Selar.

Ceisiais broffwydo rhai o’r enillwyr cyn y penwythnos, ar fy mlog fy hun, ac fel y disgwylais, ni chawsom yr un syrpreis o ran y bandiau ac artistiaid buddugol.

Cipiodd Yws Gwynedd tair gwobr, ‘Artist Unigol Gorau’, ‘Cân Orau’ a ‘Record Hir Orau’, a Candelas, headliners y noson, aeth a gwobr y Band Gorau am yr ail flwyddyn yn olynol.

Ysgol Sul, sydd wedi gwneud cryn dipyn o argraff yn ddiweddar enillodd wobr y ‘Band Newydd Gorau’, ac yn ôl yr hyn rwyf wedi clywed, gwnes gam â mi fy hun wrth gyrraedd yn hwyr a cholli eu set. (Am restr gyflawn o’r enillwyr cliciwch yma).

Roedd y perfformiadau’n fwy amrywiol na llynedd, gyda chaneuon hudolus Plu yn arwain ymlaen yn naturiol at set wefreiddiol Y Ffug, cyn i ni ddychwelyd eto at yr ail lwyfan am hip hop Mr Phormula.

Er hyn, un gwrychyn sydd gennyf yw bod cerddoriaeth blues-aidd Tom ap Dan a Tymbal wedi cael ei farchnata fel rhan o’r prynhawn i deuluoedd … ond fel y dywedais, mi ddylwn fod wedi cyrraedd yn fwy prydlon!

Serch hynny, noson o ddathlu oedd hon, nid noson o sgriblo nodiadau er mwyn ysgrifennu darn amdano.

Nid yn unig dathlu buddugwyr y noson, ond dathlu bod yna gynifer ohonom (tua 700 yn ôl pob sôn) yn barod i fentro i Aberystwyth ganol gaeaf i fynychu un o gigiau gorau’r flwyddyn.