Gyda 26 o recordiau hir, a 29 o recordiau byr yn cyrraedd rhestr
pleidlais Gwobrau’r Selar eleni, mae wedi bod yn flwyddyn gynhyrchiol iawn i gerddoriaeth Gymraeg gyfoes. Ond pa draciau unigol sydd wedi creu’r argraff fwyaf dros y flwyddyn? Yn dilyn traddodiad ei restrau 10 uchaf yn 2011, 2012 a 2013, Uwch-olygydd Y Selar, Owain Schiavone, sy’n dewis ei ddeg cân orau o 2014…

Does dim amheuaeth fod 2014 wedi bod yn flwyddyn gynhyrchiol a diddorol iawn o gerddoriaeth Gymraeg newydd.

Ar un llaw, gan eithrio Bodoli’n Ddistaw gan Candelas yn hwyr yn y dydd, does yr un o’r ‘bandiau mawr’ – Y Bandana, Cowbois Rhos Botwnnog, Yr Ods, Sŵnami – wedi rhyddhau record hir eleni .

Ar y llaw arall, mae ‘na ystod eang o gerddoriaeth wahanol wedi ymddangos – o hip-hop Cymud gan Mr Phormula, i dub I’r Dim gan Llwybr Llaethog, pop electroneg cysyniadol Y Dydd Olaf gan Gwenno i synau ffynci amgen Gimig gan Mwnci Nel.

Mae amrywiaeth cerddoriaeth gyfoes Gymraeg y flwyddyn ddiwethaf yn aruthrol ac yn ardderchog i’w weld, ond yn gwneud y dasg o ddewis a dethol caneuon gorau’r flwyddyn yn un anos…ond dyma roi tro arni.

10. Symud Ara’ – Mwnci Nel

Roedd hi’n hen bryd i ni weld a chlywed rhywbeth newydd gan Gwilym Morus-Baird, oedd yn artist unigol llwyddiannus iawn dan yr enw Gwilym Morus, ac fel aelod o’r grŵp affrobît Drymbago tua canol y 2000au. Fe ddaeth y rhywbeth newydd hwnnw ar ffurf synau electroneg ffynci Mwnci Nel, a’r albwm Gimig. Gwerth sôn hefyd am gasgliad o fideos i gyd-fynd a rhai o’r caneuon.

9. Lliwiau – 9Bach

Rhaid cyfaddef nad ydw i’n foi gwerin traddodiadol mawr iawn, ond dwi ddim yn malio cerddoriaeth werin sy’n arbrofi ac yn gwthio’r ffiniau. Braf gweld 9Bach yn symud i ffwrdd o ail-bobi caneuon fel ‘Lisa Lân’ a ‘Llongau Caernarfon’ at ganeuon gwreiddiol felly. Dwi’n hoff iawn o ‘Plentyn’, ond ‘Lliwiau’ sy’n agor y casgliad ac yn gosod y naws.

8. Llosgwch y Tŷ i Lawr – Y Ffug

Un o grwpiau 2014 heb os, yn rhyddhau eu EP Cofiwch Dryweryn ym mis Ebrill. Mae ‘Cariad Dosbarth Canol Cymreig’ efallai’n fwy trawiadol, ond riff ‘Llosgwch y Tŷ i Lawr’ yn fwy cofiadwy yn fy marn i.

7. Pysgod – R.Seliog

Mae ‘na lot o gerddoriaeth electroneg arbennig o ddifyr yn cael ei greu yng Nghymru ar hyn o bryd, ac R.Seiliog sy’n arwain y ffordd gyda hynny i mi. Ymddangosodd ‘Pysgod’ ar albwm aml-gyfrannog Cam 1 a ryddhawyd gan griw Peski  ym mis Mehefin.

http://www.last.fm/music/R.Seiliog/_/Pysgod

6. Gofyn a Joia – Bromas

Dwi’n credu mai Dyl Mei nath holi ar Twitter os mai teyrnged i Kula Shaker oedd hon. Ac mae’r gytgan yn atgoffa o ‘Govinda’, a dylanwad Asiaidd ar sŵn diweddar Bromas …ond hei, o’n i’n hoffi Kula Shaker, a dwi’n hoff iawn o’r gân yma o albwm newydd y bois  i Sir Gâr, sy’n fachog ac yn llawn o’r hwyl ac asbri sy’n cael ei gysylltu â Bromas.

5. Trysor – Yr Eira

‘Elin’ gan Yr Eira oedd rhif 1 y rhestr yma gen i llynedd, ac er bod honno’n diwn a hanner, mae’r grŵp wedi aeddfedu a datblygu eu sŵn gyda’r senglau ac EP maen nhw wedi’u rhyddhau eleni. ‘Trysor’ a’i riff gitâr a chytgan bachog ydy fy ffefryn o’r EP a ryddhawyd ddechrau Tachwedd.

4. Brenin Calonnau – Candelas

Mae enillwyr teitlau ‘Band Gorau’ a ‘Record Hir Orau’ Gwobrau’r Selar wedi llwyddo i wasgu albwm newydd i mewn ar ddiwedd 2014. Mae’n gasgliad aeddfetach a mwy cyflawn nag albwm gyntaf y grŵp, er nad yw’r caneuon unigol wedi cael cyfle i gydio cymaint ag ‘Anifail’, ‘Symud Ymlaen’ a ‘Llewpart Du’ eto. Y ddeuawd gydag Alys Williams, ‘Llwytha’r Gŵn’ sy’n plesio cynhyrchwyr Radio Cymru ar hyn o bryd, ond y trac agoriadol pwerus sy’n crynhoi, ac yn adlewyrchu egni’r grŵp orau i mi.

3. Dagrau – Carw

Un arall o’n hartistiaid electroneg mwyaf cyffrous ar hyn o bryd ydy Carw, prosiect unigol Owain Griffiths o’r Violas. Mae addewid o EP cyntaf yn y flwyddyn newydd, ond mae’r gân hyfryd yma wedi bod o gwmpas tipyn eleni, ac mae fideo annibynnol prydferth iawn ar gyfer y gân hefyd.

2. Golau Arall – Gwenno

Mae Gwenno wedi profi sawl llwyddiant cerddorol, wedi teithio’r byd ac wedi ‘bod yna’. Bellach mae hi nôl yng Nghaerdydd ac yn cynhyrchu’r math o gerddoriaeth sy’n amlwg yn agos at ei chalon. Rhyddhawyd ‘Chwyldro’ fel sengl ar ddiwedd 2013 ac eleni ymddangosodd yr albwm cysyniadol Y Dydd Olaf sy’n cynnwys yr hudolus ‘Golau Arall’.

1. Haf – Y Reu

Mae’r grŵp yma o Ddyffryn Nantlle wedi bod yn dangos addewid ers peth amser, ond fel petaent yn cael trafferth penderfynu ar gyfeiriad i’r band. Gyda thraciau fel ‘Symud Ymlaen’ a ‘Diweddglo’ llynedd maen nhw wedi siglo rhwng roc a sŵn mwy electroneg. Mae Haf yn gyfuniad perffaith o’r ddau sŵn yn fy marn i, a dwi wrth fy modd â’r newid cywair ar ôl rhyw 2 funud 20 eiliad. Tiiiiwn!

Cytuno neu anghytuno â’r dewis, dwi’n gobeithio bod y rhestr yn adlewyrchu amrywiaeth y gerddoriaeth gyfoes sydd wedi’i ryddhau yn 2014, a gobeithio y gwelwn ni’r un amrywiaeth yn 2015.