Tincian gan 9Bach
Albwm am gartref, tirwedd, teuluoedd, natur … a llwynogod – dyna ddisgrifiad Lisa Jên Brown o albwm newydd 9Bach, Tincian, sydd wedi’i ryddhau’r wythnos hon.

Mae teitl yr albwm yn air sydd yn amrywio yn ei ystyr i nifer o bobl, meddai prif lais y grŵp, ond un dylanwad amlwg ar yr enw a’r sŵn yw’r offer chwareli yn ardal Bethesda sydd wedi ysbrydoli rhai o’r caneuon.

Tincian yw’r albwm cyntaf i’r grŵp ei ryddhau o dan label cerddoriaeth byd Real World, gafodd ei sefydlu gan gyn-aelod Genesis, Peter Gabriel.

Ac mae hen hanesion chwarelwyr a theuluoedd yr ardal yn ogystal â’r byd natur yn plethu mewn i’r deg o ganeuon ar yr albwm.

Daeth ysbrydoliaeth i lawer o’r caneuon a ysgrifennodd Lisa Jên pan fu’n teithio yn Awstralia yn 2012.

“Cafodd yr albwm ei ysgrifennu yng nghefn 4×4 wrth deithio i gymuned bellennig Papunya yng ngogledd Awstralia, mewn capel festri ym Methesda, ac yn Llanddewi Brefi,” meddai Lisa Jên ar wefan Real World Records.

“Fe aeth Mart [Martin Hoyland, ei gŵr sydd hefyd yn 9Bach] a finnau yno i ysgrifennu’r caneuon a gwneud demo, ble does dim signal ffôn na rhyngrwyd.

“Roeddwn i’n canfod fy hun eisiau ysgrifennu am gartref … y dirwedd, natur, teuluoedd a llwynogod.”

Mae’r albwm yn cynnwys y gân Plentyn, sydd yn sôn am gyfnod pan fu llywodraeth Awstralia yn cymryd plant brodorol oddi ar eu rhieni.

Lou Bennett, o fand y Black Arm Band, fu’n un o’r plant hynny gafodd eu cymryd, yw un o’r lleisiau sydd yn cyfrannu ar yr albwm.

Mae Tincian gan 9Bach allan nawr, a gallwch ei phrynu ar y we drwy wefan Real World Records.