Mae Bromas wedi cyhoeddi eu sengl newydd heddiw o’r enw Merched Mumbai, y gân gyntaf oddi ar albwm newydd sydd ar y ffordd yn yr haf.

Fe fydd y band o dde-orllewin Cymru’n cyhoeddi eu halbwm diweddaraf Codi’n Fore ar label Rasp ym mis Awst.

Yn ôl allweddellwr y band Llewelyn Hopwood, mae Merched Mumbai ychydig yn ysgafnach na rhai o ganeuon cynharach Bromas.

“Ni ’di cymryd ein hunain yn gymharol o ddifrif yn y gorffennol drwy ysgrifennu caneuon trwm a dwys,” meddai Llewelyn Hopwood.

“Ond erbyn hyn ni ’di penderfynu rhoi’r gorau i hynny er mwyn creu cerddoriaeth sy’n eich cywilyddio os nad y’ch chi’n codi o’ch eistedd a dechrau dawnsio.”

Teithio’r byd

Mae Llewelyn Hopwood yn cyfaddef nad yw’r band yn gyfarwydd iawn â cherddoriaeth Indiaidd, ond ei fod yn mwynhau sŵn y sitar sydd i’w glywed ar ddechrau’r sengl.

Cafodd y band gryn lwyddiant â sengl arall rhyngwladol ei naws, Byth ’Di Bod i Japan, y llynedd. Ac maen nhw’n gobeithio parhau ar y trywydd hwnnw gyda chaneuon Bromas y dyfodol.

“Mewn deng mlynedd ni ishe rhyddhau casgliad o’r enw Bromas yn Teithio’r Byd,” meddai Llewelyn Hopwood wrth golwg360. “Bydd y ddwy gân yna’n sicr arno fe, a falle bydd mwy i ddod!”

Mae’r band wedi gorffen y rhan fwyaf o’r caneuon ar yr albwm Codi’n Fore, gyda disgwyl y bydd hyd at un ar ddeg trac newydd arni.

Clwb Ifor

Bydd Bromas yn chwarae eu sengl newydd yng Nghlwb Ifor Bach yng Nghaerdydd heno, ble bydd Y Ffug a Castro hefyd yn perfformio.

Mae’r band hefyd yn trefnu taith haf ym mis Gorffennaf eleni ac fe fyddwn nhw’n chwarae mewn nifer o gigiau ar draws Cymru gan gynnwys Sesiwn Fawr Dolgellau dros yr haf.

Mae Merched Mumbai ar gael i’w phrynu o iTunes, Amazon a Google Play o heddiw ymlaen.