Bromas - band Cymraeg neu jôc Sbaeneg?
Owain Schiavone sy’n pwysleisio pwysigrwydd cael enw unigryw i fand yn yr oes ddigidol …

Be sy’n gwneud enw da ar gyfer band?

Mae’n siŵr bod gan bawb ddehongliad eu hunain ynglŷn â hynny, a rhai bandiau’n rhoi mwy o feddwl i benderfynu ar enw nag eraill fyswn i’n tybio.

Un peth sy’n sicr ar hyn o bryd ydy fod ‘na ffasiwn o ddefnyddio ‘Y’ neu ‘Yr’ ar ddechrau enw band, a hynny am wn i’n adlewyrchu’r un patrwm diweddar poblogaidd ymysg bandiau’r sin Eingl-Americanaidd.

Wedi dweud hynny, o leiaf mae’n gam i ffwrdd o’r arfer hyll o ddefnyddio enwau Saesneg a ddatblygodd o waddol Cŵl Cymru.

Yn yr oes sydd ohoni, dwi’n credu bod angen rhoi mwy o feddwl i enwi band nag yn y dyddiau a fu. Dwi’n awgrymu hyn yn bennaf fel ymateb i’r chwyldro digidol, a’r gallu i ffeindio gwybodaeth am bron a bod unrhyw beth mewn rhai eiliadau a gyda chwpl o glics.

Yr hyn sy’n allweddol ydy meddwl am enw digon unigryw i helpu pobl allu dod o hyd i wybodaeth, neu gerddoriaeth eich grŵp yn rhwydd ar beiriant chwilio’r we a’r cyfryngau cymdeithasol.

Cyn setlo ar enw, mae’n werth gwneud googlad fach, neu chwilio Twitter i weld beth neu bwy arall sy’n dod i’r golwg.

O Sbaen i’r system solar

Dwi’n gobeithio na fyddan nhw’n malio, ond mae modd dysgu o esiamplau rhai o’n grwpiau amlycaf ni.

Beth am ddechrau efo Bromas, fu ar un pryd yn ‘Y Bromas’ dwi’n credu. Mae’n ymddangos fod Bromas yn golygu ‘jôc’ mewn Sbaeneg, ac oni bai eich bod eisoes yn dilyn cyfrif y band yn barod, mae chwilio amdanyn nhw ar Twitter yn gallu bod yn waith caled.

Mae’r grŵp hyd yn oed wedi gorfod cymryd camau i atal jocars Sbaenaidd yn eu disgrifiad o’r cyfrif ‘not a Spanish joke account’ (yn ddwyieithog chwarae teg, Saesneg a Sbaeneg wrth gwrs).

A beth am grŵp gorau 2013 yn ôl darllenwyr Y Selar? Mae’n debyg mai o’r Sbaeneg mae Candelas yn deillio hefyd, a phob math o ganlyniadau i chwiliad ar y we am y gair – rhai’n fwy amheus nag eraill. Dyma eu cyfrif Twitter swyddogol i arbed gwaith ac embaras i chi.

Cwpl o flynyddoedd nôl fe enillodd grŵp o’r enw Nebula, sydd hefyd yn derm astrolegol, gystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 Radio Cymru.

Trïwch ffeindio eu tudalen Facebook neu Twitter nhw, mae’n dipyn o her – i wneud pethau’n waeth mae nifer o grwpiau eraill ledled y byd yn rhannu’r un enw! Na’i bostio dolen i’w cyfrif Twitter mewn rhai dyddiau ar ôl i chi gael tro arni ;-)

I fod yn gyfoes iawn am funud, roedd ‘na grŵp o’r enw Aran yn cystadlu yn rownd gynderfynol Brwydr y Bandiau C2 echnos – gair i gall i’r rocars ifanc, ella bod hi’n werth ystyried enw mwy unigryw rhag cael eu cymysgu ag ynys neu fynydd.

(Yr) Ateb

O ddifrif, mewn byd lle mae ffeindio gwybodaeth yn rhwydd yn hanfodol, mae angen i’n grwpiau ni roi ystyriaeth i’r pethau yma. Dwi’n tybio bod ‘na fantais i enwau Cymraeg dros ieithoedd eraill yn hyn o beth, er, efallai y byddai Bromas a Candelas yn dadlau fod ganddyn nhw ddilyniant enfawr yn Sbaen.

Er bod hynny ychydig yn rhy gyffredin ar hyn o bryd, efallai mai defnyddio ‘Y’ neu ‘Yr’ ydy un ateb – dwi’n credu mod i’n iawn i ddweud bod ‘Eira’ wedi newid i ‘Yr Eira’ yn fuan yn eu gyrfa am yr union reswm yma.

Nes i weld rhywun yn ail-drydar y neges ganlynol ynghynt yn yr wythnos fel cymorth i ffeindio enw unigryw:

Dwi’m yn siŵr os fyddai o’n gweithio cystal efo Cysill cofiwch, ond mae enw unigryw neu drawiadol yn bwysig am fwy nag un rheswm os am wneud eich marc.