Clawr rhifyn diweddaraf Y Selar, sy'n cynnwys rhestr enillwyr gwobrau'r cylchgrawn

Mae cylchgrawn cerddoriaeth Y Selar wedi cyhoeddi enillwyr ei wobrau cerddoriaeth blynyddol heddiw.

Mae’r canlyniadau’n dod yn rhan o’r rhifyn diweddaraf sydd wedi ei gyhoeddi heddiw.

Roedd y bleidlais ar gyfer y gwobrau eleni wedi bod yn agored i’r cyhoedd ar wefan Y Selar rhwng diwedd mis Rhagfyr a dechrau mis Chwefror, gyda’r cyfle i bleidleisio am 10 o’r categorïau amrywiol.

Bandiau ifanc yn gwneud marc

Ymysg yr artistiaid sy’n hawlio gong Gwobrau’r Selar 2010 mae Y Bandana, Crash.Disco!, Jen Jeniro a The Gentle Good.

Mae Huw Stephens, Maes-B a Dilwyn Llwyd hefyd yn cael cydnabyddiaeth am eu gwaith da yn ystod y flwyddyn a fu.

Mae’r cylchgrawn hefyd yn cyhoeddi ei rhestr flynyddol o ’10 uchaf albyms’ a ddewisir gan gyfranwyr ac ysgrifenwyr Y Selar.

Eleni, ail albwm Cowbois Rhos Botwnnog, Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn sydd yn hawlio teitl albwm y flwyddyn.

Adlewyrchiad teg o’r flwyddyn

“Dwi’n meddwl fod y rhestrau byr a’r enillwyr yn adlewyrchiad reit dda o’r flwyddyn a fu yn y sin gerddoriaeth gyfoes  Gymraeg,” meddai golygydd Y Selar, Owain Schiavone.

“Mae bandiau fel Y Bandana wedi cael blwyddyn ardderchog ac wedi dod yn boblogaidd iawn tra bod artistiaid fel Crash.Disco! a Gildas hefyd wedi creu marc.”

“Mae nifer o artistiaid mwy profiadol y sin unai wedi rhoi’r gorau iddi yn ddiweddar neu gael blwyddyn dawel am resymau amrywiol” ychwanegodd. “Mae hyn wedi rhoi cyfle i artistiaid iau greu argraff, sy’n beth cadarnaol ar y cyfan.”

Mae modd gweld y rhestrau byr, yr enillwyr a rhestr albyms y flwyddyn, ynghyd â sylwadau ysgrifenwyr yn y rhifyn diweddaraf.

Fe fydd nifer o’r enillwyr yn derbyn eu gwobrau ar raglen gyntaf cyfres newydd Bandit ar S4C heno am 10pm.

Rhestr lawn enillwyr Gwobrau’r Selar 2010

Sengl Orau – Dolffin Pinc a Melyn: Jen Jeniro

EP Gorau – Yr Ods: Yr Ods

Digwyddiad Byw Gorau – Maes-B Eisteddfod Glyn Ebwy

Clawr CD Gorau – Nos Da: Gildas

Cân Orau – Cân y Tân: Y Bandana

Band neu artist newydd – Crash.Disco!

Artist Unigol Gorau – The Gentle Good

DJ Gorau – Huw Stephens

Hyrwyddwr Gorau – Dilwyn Llwyd

Band Gorau – Y Bandana

Albwm y Flwyddyn – Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn: Cowbois Rhos Botwnnog