Blaidd
Miriam Elin Jones fu’n gwrando ar EP newydd Blaidd ar gyfer rhifyn mis Rhagfyr o’r Selar.

Mae gan bob un o aelodau Blaidd restr go hir o gyn fandiau, felly mae’n ddigon teg i ddweud mai cerddorion profiadol iawn sydd y tu ôl i’r EP, Ma Fe Gyd Yn Wir.

Gallwn glywed hynny’n glir wrth wrando ar bedwar trac newydd y triawd o Geredigion.

Clywn ddylanwad Y Cyrff ac Anrhefn ar y band, er bod y casgliad hwn llawer tawelach na nifer o’r caneuon maent yn eu perfformio’n fyw.

Mae llais crafog Sam Rhys yn gweddu’n dda i naws amrwd yr EP, a does gan Blaidd ddim ofn trafod yr atgas a’r aflan wrth ddweud eu dweud.

Trac deitl yr EP, ‘Ma Fe Gyd Yn Wir’, yw’r cryfaf – mae yma riffs bachog a digon o angst. Credaf fod y gân olaf, ‘Nath Nhw Dal Ti’, yn ’bach o anticlimax i’r casgliad, ond efallai fy mod i’n disgwyl rhywbeth lot mwy stwrllyd o wybod pa mor fywiog gall gigs Blaidd fod.

Byddai albwm wedi rhoi mwy o sgôp i’r band arbrofi a chynnwys casgliad ehangach o ganeuon, ond mae’r EP hwn yn ddechrau da, ac yn cynnwys pedair cân gref a chofiadwy.

7/10

Daw’r adolygiad hwn o rhifyn Rhagfyr 2013 o’r Selar sydd ar gael i’w ddarllen yn ddigidol yma.