Gyda’r flwyddyn yn ymlwybro tua’i therfyn – a Lisa Gwilym ei hun yn cymryd hoe fach o’r radio i ddechrau cyfnod mamolaeth – mae’n amser edrych yn ôl ar y flwyddyn a fu ar raglen C2 Lisa yn 2013.

Tîm rhaglen Lisa Gwilym a golwg360 sydd wedi bod yn pori drwy’r pigion, gan edych nôl ar rai o uchafbwyntiau’r flwyddyn a dewis y deg uchaf.

Y cwestiwn mawr yw: a ydych chi’n cytuno gyda’r detholiad? Pa grwpiau, gantorion neu ganeuon wnaeth sefyll allan i chi?

1. Georgia Ruth Williams – Week Of Pines

Efallai fod rhoi albwm Georgia ar y brig ‘chydig yn amlwg, ar ôl iddi ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymraeg a chael dau enwebiad yng Ngwobrau Gwerin Radio 2.

Ond mi oedd clywed caneuon fel Etrai, Codi Angor, Hallt a Week Of Pines ar y rhaglen yn sicr yn uchafbwynt yn 2013, yn enwedig gan ein bod ni wedi dilyn gyrfa Georgia ers y dechre – ac ar gyfer rhaglen Lisa Gwilym y recordiodd Georgia ei chaneuon Cymraeg cyntaf, felly ‘da ni’n falch iawn o’r cysylltiad â’r cyfeillgarwch!

2. Yr Ods – Llithro

Ar ôl llwyddiant Troi A Throsi, roedd ‘na dipyn o bwysau ar Yr Ods hefo’r ‘ail albwm anodd’, ond mae Llithro llawn cystal os nad gwell na’r albwm gyntaf!

Mae’r albwm yn adeiladu’n raddol o ganeuon pop bachog, uniongyrchol fel Pob Un Gair Yn Bos a Rhywbeth i Rywun i uchafbwynt Rhywbeth Yn Gorfod Digwydd sy’n awgrymu cyfeiriad difyr i’r Ods yn y dyfodol. Fe gawsom ni’r pleser o chwarae’r albwm yn ei chyfanrwydd un noson ar y rhaglen, o’r nodyn cyntaf i’r olaf, ac mae’n albwm wych.

3. Prysurdeb Peski

Braf iawn oedd gweld label Peski yn cael blwyddyn mor brysur; gigs Peski Nacht, gwefan newydd a chynnyrch newydd gan Gwenno, Y Pencadlys a Plyci. Ers deng mlynedd mae Peski wedi cefnogi cerddoriaeth a chreadigrwydd yng Nghymru – hir oes i’r Peski kids!

4. Albwms Aml-Gyfrannog Y Record Las + O’r Nyth

Casgliadau difyr, amrywiol yn cael eu rhyddhau ar finyl mewn pecyn celfyddydol hyfryd; mae’r ddwy albwm yn olynwyr teilwng i gasgliadau hanesyddol y SRG fel Cam O’r Tywyllwch a chasgliadau label Anskt.

5. Sesiwn Ywain Gwynedd

Ar ôl seibiant o bum mlynedd, fe ddaeth Ywain Gwynedd, prif leisydd y grŵp Frizbee, yn ôl i’r sin. Fe dderbyniodd Yws wahoddiad i recordio sesiwn yn arbennig i’r rhaglen, ac ar ôl ‘chydig ddyddie yn stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth, roedd o wedi recordio tair cân oedd yn hynod fachog a chofiadwy. Croeso nol Yws – tiwns!

6. Sŵnami – Du A Gwyn

Mae Sŵnami wedi datblygu o fod yn un o grwpiau ifanc gore Cymru yn 2013 i fod yn un o grwpiau gorau Cymru ‘full stop’! 17 o gigs ym mis Gorffennaf, dros 50 o gigs mewn blwyddyn, cefnogi Edward H yn y gig olaf, ac EP sy’n ffefryn gan bawb. Llongyfarchiadau ar flwyddyn wych Sŵnami!

7. The Gentle Good – Y Bardd Anfarwol

Albwm sy’n deillio o daith Gareth Bonello i China y llynedd, mae Y Bardd Anfarwol yn llwyddo i blethu cerddoriaeth dwy wlad a dau gyfandir yn fendigedig i roi hanes y bardd o China Li-Bai. Mae’r albwm wedi bod yn llafur cariad i Gareth, a ‘da ni mor falch fod y prosiect wedi llwyddo mor hyfryd.

8. Llwyddiant Artistiaid Ifanc – Kizzy Crawford, Yr Eira, Cledrau, Y Reu, GRAMCON

Mae’r amrywiaeth o dalent newydd ddaeth i’r amlwg yn 2013 yn codi calon; llais a geiriau unigryw Kizzy, caneuon bachog Yr Eira, brwdfrydedd a phrysurdeb Cledrau, sŵn cyfoes Y Reu, a dirgelwch GRAMCON – mae 2013 wedi bod yn flwyddyn wych i dalent gerddorol newydd Cymraeg.

9. Candelas a Siddi

Roedden ni mor falch o weld albwms Siddi a Candelas yn gweld golau dydd eleni. Fe wnaeth Siddi sesiwn wefreiddiol a hudolus i ni yn 2012, felly ‘da ni wedi bod yn disgwyl yn eiddgar am yr albwm – sydd yr un mor brydferth. A Candelas? Band byw gorau 2013? Yn sicr ‘Anifail’ oedd y gân gafodd fwyaf o ymateb ar y rhaglen!

10. Sesiwn Endaf Gremlin

Endaf Gremlin – ‘swpyrgrŵp’ gafodd ei ffurfio i hyrwyddo Maes-B eleni! Mei Gwynedd Sibrydion, Dafydd Hughes Cowbois Rhos Botwnnog, Rhys Aneurin Yr Ods, Osian Williams Candelas a Dafydd Hughes Race Horses – cerddorion gwych sydd wedi llwyddo i fynd heibio’r amheuaeth am ‘swpyrgrŵps’ a chreu band go iawn hefo caneuon roc arbennig o dda.

Mae gan y grŵp gynllunie i recordio a gigio mwy yn 2014, felly ‘da ni’n falch iawn mai ar raglen Lisa Gwilym y clywsoch chi Endaf Gremlin gyntaf!

Bydd rhaglen C2 Lisa Gwilym ar Radio Cymru o 7yh heno, ac fe fydd modd gwrando iddi’n fyw ar wefan BBC Radio Cymru yn ogystal ac ar iPlayer yn nes ymlaen.