9Bach
Mae’r grŵp gwerin-amgen, 9Bach wedi cyhoeddi y byddan nhw’n gwneud taith fer o Gymru ddiwedd mis Hydref.

Mae’r daith yn ymweld ag Aberystwyth, Caernarfon, Y Coed Duon a Phontardawe.

Bydd y daith yn dilyn perfformiad ganddyn nhw yng ngŵyl gerddoriaeth byd Womex yng Nghaerdydd – bydd 9Bach yn perfformio yn Theatr Weston ar 26 Hydref.

Dyddiadau taith 9Bach

27/10/2013 Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth

28/10/2013 Galeri, Caernarfon

29/10/2013 Sefydliad y Glowyr, Y Coed Duon

30/10/2013 Canolfan y Celfyddydau, Pontardawe