Oedd ail albwm Gildas yn plesio adolygydd cylchgrawn
Y Selar, Cai Morgan?

Cawn ein croesawu i’r albwm dlws yma yn sŵn harmonïau, offerynnau pres a samplau anifeiliaid ‘Y Gusan Gyntaf’, trac sy’n codi calon. ‘Gweddi Plentyn’ sydd nesaf, trac llai mawreddog ond harmonïau swynol iawn gan Greta a Miriam Isaac. Mae mwy o fynd wedyn i ‘Y Gŵr o Gwm Penmachno’ ac mae’n amhosib peidio tapio’ch troed i’r trac hwn.

Ceir drymiau electronig ar ddechrau ‘Elenbenfelen’, tri munud o gerddoriaeth syml ac ailadroddus ond unigryw a seicadelig bron ar yr un pryd. Gitâr yn efelychu sŵn Clychau Eglwys sy’n agor y trac nesaf, ‘Clychau’. Trac offerynnol sy’n dal ei dir ochr yn ochr â’r lleill. Synth, llinynnau, gitâr acwstig, a llais yw elfennau ‘Kenny’ – cyfuniad anarferol o offerynnau a sŵn hollol wreiddiol.

‘Sgwennu Stori’ sydd nesaf, deuawd wefreiddiol gydag Arwel a Greta Isaac , llais cyfarwydd iawn erbyn hyn yn yr albwm. Dyma uchafbwynt yr albwm i mi’n sicr. Daw trac 8 ‘Carreg Cennen’ a ni nôl i’r ddaear gyda phedair munud o brydferthwch cyn diflannu mewn eiliad. Mae’r offerynnau i gyd yn cael eu plygio mewn ar gyfer y trac olaf ‘Dweud y Geiriau’ sy’n falad llawn emosiwn i gloi’r albwm.

Pleser llwyr oedd gwrando ar yr albwm yma, un ar gyfer diwedd diwrnod hir, gyda phaned.

8/10

Adolygiad o rifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar. Darllenwch fwy o adolygiadau, cyfweliadau ac erthyglau cerddoriaeth eraill yn y fersiwn ar-lein.