Ciron Gruffydd fu’n rhoi ei farn ar albwm diweddaraf y grŵp gwallgof o Fangor, Plant Duw, yn rhiyn diweddaraf
Y Selar.

Mae Plant Duw yn un o’r bandiau hynny sydd wedi bod o gwmpas ers sbel ond erioed wedi cael y clod maen nhw’n ei haeddu . ‘Distewch, Llawenhewch’ oedd un o albyms gorau 2011 mewn unrhyw iaith ond eto anaml mae rhywun yn clywed clasuron fel ‘Lawr wrth yr Afon’ ac ‘Emyn’ ar y radio. Mae’r EP Lliwiau unwaith eto’n record fedrus iawn ac fel holl allbwn Plant Duw, mae’r sŵn yn unigryw iddyn nhw.

Er mai slogan y band yw “enaid, pync, cariad” mae Lliwiau yn record reit hamddenol ar y cyfan gyda’r banjo yn ‘Y Ffenast’ a naws Caribïaidd ‘Heno Ges i Gannwyll gan fy Nghariad’ yn ychwanegu at hynny.

Yr un gân sydd ddim cweit yn ffitio yw C.O.B (Cofio o’r Blaen) sydd wedi ei gorfodi braidd, ond gan mai siop Recordiau Cob oedd un o’r ychydig lefydd gwerth chweil yn ninas Bangor, cyn iddi gau, mae’n anodd peidio maddau’r sentiment.

Er nad yw’r record yn cyrraedd uchelfannau ‘Distewch, Llawenhewch’ mae’n gyflwyniad da i un o fandiau gorau Cymru heb orfod buddsoddi amser ac arian mewn albwm llawn. Wedi’r cwbl, onid Plant Duw ydyn ni pob un?

7/10

Adolygiad o rifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar. Darllenwch fwy o adolygiadau, cyfweliadau ac erthyglau cerddoriaeth eraill yn y fersiwn ar-lein.