Owain Gruffudd fu’n gwrando ar ail albwm Yr Ods ar ran cylchgrawn Y Selar.

Er gwaetha’r teitl, nid yw safonau’r Ods wedi ‘Llithro’ ac mae’r ail albwm cystal, os nad gwell, na’r cyntaf.

Er eu bod yn cael eu hadnabod am ‘hits’ bachog ond mae’r band i weld yn troi i gyfeiriad ’chydig yn wahanol y tro hwn. Mwy o ganeuon  o safon, er na fydd cymaint o ganu arnyn nhw mewn gigs efallai.

Mae melodiau a strwythur llawer symlach i’r caneuon ar Llithro, gyda’r traciau agoriadol ‘Dim Esboniad’ a ‘Rhywbeth i Rhywun’ yn enghreifftiau da. Dydyn nhw ddim yn ganeuon mor brysur a llawn â thraciau Troi a Throsi, ond mae ’na deimlad mwy aeddfed i’r sŵn a naws mwy gwleidyddol i rai o’r geiriau.

Cân ora’r albwm i mi yw ‘Gad Mi Lithro’. Dechreua’r gân yn eithaf araf a distaw, cyn adeiladu i ddiweddglo epig – allai weld nhw’n cloi set fyw efo hon!

Er bod newid wedi bod yn y sŵn, yn aelodau’r band ac yn y cynhyrchydd, mae Llithro yn esiampl arall o allu Yr Ods i greu casgliad safonol iawn o ganeuon.

9/10

Adolygiad o rifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar. Darllenwch fwy o adolygiadau, cyfweliadau ac erthyglau cerddoriaeth eraill yn y fersiwn ar-lein.