Gŵyl y Dyn Gwyrdd
Sion Richards fydd yn ymweld â Gŵyl y Dyn Gwyrdd ar ran Golwg360.

Penwythnos yma yng Nghrug Hywel, yng nghanol golygfeydd godidog y Bannau Brycheiniog, bydd cynnwrf o gerddoriaeth a llenyddiaeth gyfoes ryngwladol yn dychwelyd yn ôl i un o wyliau mwyaf gwerin-gyfoes Prydain.

Yn ei degfed flwyddyn, ac yn parhau â rhaglen lawn talent oesol, bydd Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn llwyfannu dros 1,500 o berfformwyr cerddorol, llenyddol a chomedi ar 10 llwyfan; gan barhau â’r traddodiad o ddarganfod talent gyffrous newydd.

Eleni bydd rhai o enwau mwyaf cerddoriaeth ryngwladol yn perfformio i dorf o dros 20,000, gyda rhai o’r enwau mwyaf yn cynnwys swyn gwerinol Ben Howard & James Yorkston, roc seicadelig ysbrydol The Horrors & Melody’s Echo Chamber, a’r chwedlonol John Cale & Patti Smith.Yn ogystal â’r prif berfformwyr rhyngwladol, daw llwyfan i ddoniau cerddorol Cymru, gydag enwau megis Yr Ods, Cowbois Rhos Botwnnog, Gulp a Casi Wyn yno i arddangos eu talent, ac adlewyrchu sin cryf cyfoes y Gymraeg.

Yn hynod gyffrous, byddaf yno i sylwebu ar ran Golwg360, gyda’r bwriad o adlewyrchu rhai o brif ddigwyddiadau’r ŵyl a chyfweld â rhai o’r perfformwyr Cymraeg; a hynny trwy flog a fideo.

Er bod digwyddiadau’r Eisteddfod Genedlaethol dal yn ffres yn ein cof, daw Gŵyl y Dyn Gwyrdd i leoliad prydferth arall yn ein gwlad i amlygu a hybu talentau diwylliannol Cymraeg, mewn amgylchfyd rhyngwladol a chroesawgar.

Edrychaf ymlaen at sylwebu ar ddigwyddiadau’r ŵyl, gan hefyd darparu blas o gerddoriaeth a naws hudol y Dyn Gwyrdd i gynulleidfa Golwg360.