Clawr albwm Gwyllt
Heddiw, mae Gwyllt yn rhyddhau cân newydd oddi ar albwm newydd o’r un enw, sy’n cael ei rhyddhau ar 10 Mehefin ar label Sbrigyn Ymborth – ac mae darllenwyr Golwg360 yn cael y cyfle cyntaf i wrando arni.

Prosiect Amlyn Parry o Landwrog yw Gwyllt ac mae’n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn.

Mae Amlyn eisoes wedi rhyddhau’r gân ‘Pwyso a Mesur’ oddi ar y record sydd ar gael i wrando arni ar gwyllt.co.uk.

“Digartrefedd sydd wedi ysbrydoli’r gân yma,” meddai Amlyn Parry wrth Golwg360 am ei drac diweddaraf, ‘A’r Lannau’r Taf’.

“Mi o’n i isho denu sylw pobol at annhegwch a chaledion bywyd rhai pobol. Dwi’n meddwl mewn dinas fel Caerdydd allwch weld yn glir gwahaniaethau eang ym mywydau pobol.

“Ma’r ddwy gân dwi wedi rhyddhau hyd yma, ‘Pwyso a  Mesur’ ac ‘A’r Lannau’r Taf’ yn hollol wahanol. Mae hyn portreadu’r cymysgedd o gerddoriaeth ma’ Gwyllt yn ei greu… ac mi allwch weld hyn ar y CD fydd o allan!”