Dylan Thomas
Mae’r olaf o blant y bardd o Abertawe, Dylan Thomas, wedi marw yn ei gartref yn yr Eidal yn 63 mlwydd oed.

Colm Thomas oedd plentyn ieuengaf Dylan a’i wraig Caitlin a bu farw ddydd Sadwrn wedi trawiad ar y galon.

Bu farw chwaer Colm, Aeronwy Thomas-Ellis, yn 2009 yn 66 mlwydd oed a bu farw ei frawd Llewelyn yn 62 mlwydd oed yn y flwyddyn 2000.

Bydd ei angladd yn cael ei gynnal heddiw.