Mae awdur un o nofelau Cymraeg mwyaf poblogaidd ein hoes wedi cael asiant yn yr Unol Daleithiau.

Mewn erthygl yn rhifyn diweddaraf cylchgrawn Golwg, mae’r awdur Manon Steffan Ros yn cadarnhau bod ei haddasiad Saesneg o’i nofel Llyfr Glas Nebo ar ddesg asiant yn Manhattan, Efrog Newydd.

Mae’r asiant wrthi’n ceisio gwerthu’r nofel i wahanol gyhoeddwyr ar hyn o bryd.

“Gawn ni weld,” meddai’r nofelydd sy’n wreiddiol o Riwlas ger Bethesda, ond sydd wedi ymgartrefu yn Nhywyn.

“Mae o’n eitha’ neis. Dw i erioed wedi cael asiant o’r blaen. … Does gen i ddim disgwyliadau o gwbl pe bawn i’n onest. Tasa fo’n digwydd, grêt.”

Rhagor am y stori yn rhifyn diweddaraf Golwg (Ionawr 9, 2019), ynghyd â chyfweliad llawn gyda’r awdur am addasiad newydd sbon llwyfan Cwmni’r Frân Wen, Llyfr Glas Nebo, sy’n mynd ar daith ar Ionawr 31.