Fe fydd cyfrol newydd o farddoniaeth yn cyflwyno’r gynghanedd i blant bach India yn cael ei chyhoeddi ddydd Sul (Rhagfyr 1).

Ffrwyth gwaith Eurig Salisbury o Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth a Sampurna Chattarji, bardd ac awdur o India, yw The Bhyabachyaka and Other Wild Poems.

Fe wnaethon nhw gyfarfod yn ystod gweithdy cyfieithu yng nghanolfan Tŷ Newydd yn 2011, gan gyd-ysgrifennu’r gyfrol Elsewhere Where Else / Lle Arall Ble Arall y llynedd.

Bydd y gyfrol ddiweddaraf, sydd wedi’i chyhoeddi gan Scholastic India, yn cael ei lansio yn yr ŵyl lenyddol flynyddol i blant, Buckaroo, yn Delhi Newydd.

Cerddi Saesneg sydd rhwng cloriau’r gyfrol, ond maen nhw’n tynnu ar brofiadau’r ddau fardd o farddoni yn eu hieithoedd eu hunain, sef y Gymraeg a Bangla.

Themâu

Thema rhan gynta’r gyfrol yw geiriau anghyfarwydd, lle mae’r ddau fardd yn dewis geiriau anarferol yn ieithoedd ei gilydd, fel ffrwchnedd (banana) yn y Gymraeg a bhyabachyaka (drysu) yn Bangla.

Mae’r gyfrol hefyd yn trafod geiriau sydd wedi cael eu bathu yn y ddwy iaith, geiriau sydd o bwys diwylliannol fel cynghanedd neu puja ac enwau lleoedd, gan gynnwys Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch.

Fel rhan o’r prosiect, bydd Eurig Salisbury a Sampurna Chattarji yn cynnal cyfres o weithdai gyda phlant oedran cynradd yn Delhi Newydd ar Ragfyr 2 a 3.

Yn ôl y cyhoeddwyr, y gyfrol hon, sy’n cael ei disgrifio fel “smorgasbord trawsddiwylliannol o nonsens” yw “un o’r rhai mwyaf hwyliog a gwallgof sydd wedi’i chyhoeddi gan Scholastic India”, ac maen nhw’n addo “oriau o gigls i gosi’r asennau”.