Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn Llenyddiaeth Cymru y flwyddyn nesa’ yn dychwelyd i Aberystwyth am yr ail flwyddyn yn olynol, gyda phwyslais newydd ar lenyddiaeth i blant a phobol ifanc.

Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yn Theatr y Werin, Canolfan y Celfyddydau, ym Mehefin 2020 gyda chategori newydd, sef categori ‘Plant a Phobol Ifanc’.

Nod y categori newydd, yn ôl Llenyddiaeth Cymru, yw ysbrydoli ac annog cenedlaethau newydd o ddarllenwyr creadigol yng Nghymru.

Yn ogystal â hyn, bydd cyfle i blant a phobl ifanc bleidleisio yng Ngwobr Barn y Plant a Phobol Ifanc.

Caiff rhestr fer Llyfr y Flwyddyn ei chyhoeddi ar Fai 12,  2020. Bydd enwau’r panel beirniadu yn cael eu cyhoeddi ym mis Mawrth y flwyddyn nesa’.

“Rydym yn falch iawn y bydd Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yn dychwelyd i Ganolfan y Celfyddydau am yr ail flwyddyn yn olynol,” meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

“Edrychwn ymlaen at ddathlu’r gorau o lenyddiaeth Gymreig yn Aberystwyth, cartref answyddogol llenyddiaeth yng Nghymru.”