Bardd o Abertawe oedd yn gyfrifol am yr awdl “na welwyd ei thebyg” yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy eleni.

Huw Dylan Owen, sy’n dod yn wreiddiol o Ddolgellau ond sy’n was sifil yn y de ers blynyddoedd, oedd Llyfr Ryseitiau, sy’n cynnig awgrymiadau am sut i baratoi gwlad rydd, annibynnol.

Ef oedd enillydd y Gadair yn Eisteddfod Talaith a Chadair Powys yn Nyffryn Banw y mis diwethaf, ac mae’n arlod o dîm Fforddolion ar gyfres Talwrn ar Radio Cymru.

“Go brin y gwelwyd awdl debyg iddi yn holl hanes yr Eisteddfod,” meddai Llion Jones, un o’r tri beirniad.

“Mae dyn yn rhyfeddu at greadigrwydd y cystadleuydd,” meddai beirniad arall, Ieuan Wyn, “ac yn dotio at y modd y mae wedi defnyddio cerdd dafod i ddiben mor drawiadol o annisgwyl.”

“Mewn cegin, nid oes ffiniau / na wal a fyn ein gwanhau” yw cwpled agoriadol yr awdl, cyn nodi “Cawn asio ein cynhwysion / i greu mewn undaear gron”.