Ymhlith y rhai a ddaeth yn agos i ennill Coron yr Eistedfod Genedlaethol ddoe (dydd Llun, Awst 5) oedd prifardd cadeiriol, darlithydd prifysgol a chyfieithydd.

Fe ddaeth yn hysbys mai gwaith yr Athro Damien Walford Davies ydo’r dilybiant sy’n dwyn y ffugenw OS ymhlith y 29 a ymgeisiodd.

Y Prifardd Aneitin Karadog ydi cerddi ‘Non‘, sy’n cynnwys cyffyrddiadau a llinellau cynganeddol ac sy’n cyfeirio at Lydaw.

Yr awdur a’r cyfieithydd, Mari George, oedd yn gyfrifol am y dilyniant sy’n olrhain pum cenhedlaeth o ferched o fewn teulu.