Mae awdur poblogaidd o Geredigion wedi sgrifennu dilyniant i’r nofel a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2011.

Mae Pedwaredd Rheol Anrhefn gan y cyn-newyddiadurwr, Daniel Davies, yn nofel ysgafn sy’n parhau gyda stori Dr Paul Price a’i gariad, Llinos Burns, dau gymeriad a gyflwynwyd am y tro cyntaf yn Tair Rheol Anrhefn.

Yn ôl yr awdur ei hun, mae ei nofel newydd yn ddilyniant sydd hefyd yn “sefyll ar ben ei hunan”, gan drafod y pwnc cyfoes o sut mae technoleg yn cael ei defnyddio wrth warchod a diogelu.

“Y peth pwysicaf ro’n i’n meddwl ambwyti oedd y cytundeb Ffawstaidd rhwng gwyddonwyr a gwleidyddion, a’r ffordd mae gwleidyddion yn defnyddio technoleg a dyfeisiadau a damcaniaeth gwyddonwyr…” meddai Daniel Davies wrth golwg360.

“Roedd y nofel gyntaf yn ymwneud mwy â’r cwmnïau mawrion – y multinationals. Ond mae[‘r ail nofel] yn ymwneud mwy â chydwybod gwyddonwyr.”

Sgrifennu comedi – “blincin anodd”

Er y pwnc difrifol, mae Daniel Davies yn disgrifio’r nofel yn “gomedi”, gan ddweud bod dull ysgrifennu o’r fath yn dod yn naturiol iddo.

Mae hefyd yn teimlo bod angen “cynnig amrywiaeth” i ddarllenwyr, gan nad oes llawer o ddeunydd ysgafn ar gael yn Gymraeg, meddai.

Fodd bynnag, mae’r awdur yn cyfaddef bod sgrifennu comedi ar bapur yn gallu bod yn her ar adegau.

“Mae’n anodd – mae’n blincin anodd,” meddai. “Fel y dywedodd yr actor Edmund Kean: ‘Dying is easy, but comedy is hard’.”

Dyma glip o Daniel Davies yn darllen darn o Pedwaredd Rheol Anrhefn