Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn chwilio am awdur i fod y Children’s Laureate Wales cyntaf.

Mae Bardd Plant Cymru wedi bodoli ers dechrau’r ganrif, ond eleni fydd y tro cyntaf i fersiwn Saesneg o’r rôl gael ei chynnig.

Yn debyg i’r Bardd Plant, bydd y Children’s Laureate yn cael ei benodi am gyfnod o ddwy flynedd, a’i brif swyddogaeth fydd canolbwyntio ar gyflwyno llenyddiaeth i blant o bob oed a chefndir.

Mae’r swydd yn agored i awduron ar draws pob ffurf lenyddol, gan gynnwys barddoniaeth, rhyddiaith, nofelau graffig a pherfformio.

“Mae gan bob un ohonom ein straeon i’w hadrodd, yn enwedig plant a phobol ifanc Cymru,” meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru.

“Rydym yn edrych ymlaen yn arw at apwyntio’r Children’s Laureate Wales, a gweld deiliad y rôl yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i fwynhau arbrofi â geiriau, a rhoi llwyfan haeddiannol i leisiau, barn a materion sydd o bwys iddyn nhw.”

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio am y rôl yw Gorffennaf 11, a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cychwyn ar ei waith ym mis Medi.