Bydd gŵyl fawr i bobol ifanc yn digwydd yng Nghanolfan y Mileniwm y penwythnos yma  – gŵyl sydd wedi ei threfnu’n gyfan gwbwl gan bobol ifanc.

Hon fydd y drydedd GŵylGrai, ac mi fydd yng Nghaerdydd eleni ar ôl bod yn Llandudno y llynedd, a Chasnewydd y flwyddyn gynt. Y bwriad, yn ôl Cyfarwyddwr yr ŵyl, Ruth Garnault, yw “hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr celfyddydol yng Nghymru, a rhoi’r arfau iddyn nhw yn y gwaith o gynllunio a rhaglenni gŵyl.”

Bydd yr ŵyl bedwar diwrnod yn cynnig lle i ymarferwyr celfyddydol o bob cwr o Gymru – ac yn cynnwys arddangosfeydd celf; slam farddol; theatr, dawns, a syrcas; gweithdai ar adolygu digwyddiadau, arlunio a sgrifennu nofelau cartŵn, podledu a rhagor.

Ymhlith y perfformiadau cerddorol ddydd a nos mae gig o ferched sy’n perfformio hip-hop, ‘Queens of Art’, a cherddoriaeth ‘indi’ drwy ddydd Sadwrn.

O hedyn bach… 

Cychwynnodd yr ŵyl wedi cynhadledd gelfyddydol i’r ifanc yn 2012 ac ymchwil Arad gan y Cyngor Celfyddydau yn 2013. Aeth criw ifanc wedyn ar daith ymchwil i wyliau cerddorol yng Nghymru, Norwy a’r Alban a nhw sydd wedi llunio egwyddorion craidd GŵylGrai.

Mae’r ŵyl wedi cael nawdd gan uned digwyddiadau mawr Llywodraeth Cymru (£80,000 dros dair blynedd), a Chyngor Celfyddydau Cymru (£30,000).

Gweni Llwyd, artist ifanc o’r Fron yn Nyffryn Nantlle, yw Cydlynydd Celf Weledol yr ŵyl, yn gyfrifol am drefnu’r brif arddangosfa gelf, Codi, sy’n rhoi platfform i ddwsin o artistiaid ifanc gan gynnwys Tom Arnold, Morgan Dowdall, Miriam Hughes, Marek Liska, Luke Mills, Kristina Nabazaite, Karl Nurse, Maria Paraschidou, Abi Preece, Luke Roberts, a Sion Teifi.

“Mae’n neis cael y cyfrifoldeb,” meddai Gweni Llwyd. “Mae o’n tyfu hyder rhywun… a theimlo fel fy mod i’n gallu gwneud y pethau yma heb orfod ymddiried o i rywun hŷn. Mae yna dipyn o deimlad o gyffro o gwmpas yr ŵyl. Mae o’n teimlo yn fwy y tro yma na’r ddau dro arall. Dw i’n gobeithio ei weld o’n tyfu eto’r flwyddyn nesa os bydd o’n digwydd.”

Bydd arddangosfa arall o waith fideo, ffotograffau a phaentiadau yn edrych ar brofiadau mewnfudwyr ifanc i Gymru, sef ‘Young, Migrant and Welsh’, a gosodiad Hwb Bwb sy’n edrych ar les ac iechyd meddwl gan artistiaid ifanc o ogledd Cymru.