Mae adrannau penodol sy’n cynnwys llyfrau o ddiddordeb hoyw, lesbiaidd, deurywiol a thrawsrywiol ar gael mewn dwy lyfrgell yn y gogledd.

Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae’r cyfan y rhan o ymgyrch sy’n anelu at “hyrwyddo cynhwysiant a chodi ymwybyddiaeth o ragfarn” sy’n cael ei wynebu gan y gymuned hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.

Bydd yr adrannau penodedig yn cynnwys casgliad o lyfrau sydd wedi’i anelu at y gymuned honno, gyda chymysgedd o gyfrolau hefyd gan awduron LHDT.

Mae’r cyfan yn deillio o awgrym gan Tadgh Crozier, gwirfoddolwr o’r grŵp ieuenctid LHDT lleol, a bu Cyngor Gwynedd yn cydweithio â phobol ifanc lleol o fudiad GISDA er mwyn datblygu’r syniad a’r casgliad.

“Rydan ni wedi cydweithio’n agos â’r gymuned LHDT wrth leoli’r adran ac rydym hefyd wedi ehangu ar yr amrywiaeth o deitlau a oedd gennym eisoes mewn stoc,” meddai Nia Gruffydd, rheolwr llyfrgelloedd Gwynedd.

“Roeddan ni’n falch o allu ymateb yn bositif i’r cais hwn ac yn hapus i ddarparu gwasanaeth llyfrgell sy’n adlewyrchu ein defnyddwyr a’r gymdeithas gyfan.”