Mae llenor a dramodydd o orllewin Cymru yn dweud nad yw hi’n hoffi cael ei “labelu”, er bod ei dwy nofel diweddaraf yn ymwneud â chefn gwlad.

Gwta ddwy flynedd ers cyhoeddi ei nofel gyntaf, Dŵr yn yr Afon, mae Heiddwen Tomos wedi dychwelyd i’r un gymdeithas wledig yn Esgyrn a ddaeth yn ail am Wobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd y llynedd.

Ond mae’r athrawes a’r wraig fferm o Bencarreg yn mynnu mai “pobol” sy’n denu ei diddordeb gan fwyaf, cyn ychwanegu iddi gael yr un mwynhad wrth sgrifennu’r ddrama Milwr yn y Meddwl, sy’n canolbwyntio ar deulu o gefndir “mwy trefol” ac yn trafod y cyflwr PTSD (Post-traumatic stress disorder).

“Labels are for jars”

“Dw i’n trial peidio â chael fy labelu’n rhywbeth,” meddai Heiddwen Tomos wrth golwg360.

“Dw i’n sgrifennu am gefen gwlad oherwydd ei fod yn naturiol i fi, gan fy mod i wedi cael fy ngeni a’m magu y ffordd hyn.

“Ond fy hunan, dw i’n joio darllen am bach o bopeth, felly dw i’n gobeithio fy mod i’n gallu sgrifennu am bach o bopeth hefyd.”

“Hiwmor yn bwysig”

Mae Esgyrn, sydd wedi cael ei chyhoeddi gan wasg y Lolfa, yn canolbwyntio ar berthynas tad-cu a’i ddau ŵyr ifainc, gydag un ohonyn nhw’n anabl ac mewn cadair olwyn.

Nofel “eithaf gyfoes” yw hi, yn ôl Heiddwen Tomos, sydd hefyd yn trafod themâu traddodiadol fel perthyn a threftadaeth, mewnfudwyr a chariad.

“Mae hiwmor ynddi hefyd,” meddai wedyn. “Mae lot o olygfeydd yn digwydd mewn ysgol, ac mae un cymeriad eithaf allweddol sy’n dipyn o strab…

“Mae’n nofel i’w mwynhau, dw i’n gobeithio, ac mae’n nofel sy’n ceisio crisialu rhai o’r cymeriadau sydd yng nghefen gwlad fel ag y mae ar hyn o bryd.”

Dyma glip sain o Heiddwen Tomos yn darllen darn allan o Esgyrn