Fe fydd copi o’r Beano Annual cyntaf erioed – sy’n dyddio o 1939 – yn cael ei werthu mewn ocsiwn.

Mae’r copi yn deillio o’r cyfnod cyn dyfeisio’r cymeriad adnabyddus, Denis the Menace.

Cafodd y llyfr blynyddol ei gyhoeddi ar drothwy’r Ail Ryfel Byd, flwyddyn ar ôl i’r comic gael ei gyhoeddi am y tro cyntaf.

Hwn yw’r llyfr cyntaf o blith 79 o flwyddlyfrau Beano sydd wedi’u cyhoeddi erbyn hyn. Wnaeth Denis the Menace ddim ymddangos tan 1951, ac fe gafodd ei gi, Gnasher, ei gyflwyno yn 1968.

Mae disgwyl i’r llyfr gael ei werthu yn Norfolk am hyd at £1,500.

Dywed yr arwerthwr Robert Henshilwood ei bod yn “beth prin iawn gweld copi o’r Beano Annual cyntaf erioed, yn enwedig un sydd mewn cyflwr cystal”.

Mae disgwyl cryn ddiddordeb o bob cwr o’r byd ar Awst 30, wrth i gyfres o lyfrau blynyddol Rupert the Bear hefyd fynd dan y morthwyl.