Fe enillodd un o lenorion mwya’ llwyddiannus yr Eisteddfod ei 25ain wobr yng Nghaerdydd eleni.

Y Prifardd a’r Prif Lenor, John Gruffydd Jones, Abergele, a gipiodd y wobr am gyfansoddi cerdd i’w llefaru ar lwyfan gan bobol ifanc 12-16 oed.

Ei wyres, Lois, oedd yn y seremoni yn y Babell Lên i dderbyn y wobr ar ei ran.

Roedd dwy wobr i lenor ifanc hefyd, wrth i Dyfan Meredydd Lewis o Graigcefnparc ennill ar y Stori Fer a’r Ysgrif.

Gwynne Wheldon o Borthmadog oedd enillydd gwobr fwya’r sesiwn, wrth gael Ysgoloriaeth Emyr Feddyg am gasgliad o gerddi – mae’r wobr yn cynnwys gwerth £1,000 o fentora gan lenor profiadol.

Er gwaetha’ £100 o wobr, doedd yna ddim cystadlu ar y gerdd dan 25 oed ond fe aeth y wobr am ddeg cyfarchiad i John Eric Hughes, o Abergele, a’r wobr am lên meicro i Menna Machreth o Gaernarfon.