Cynnydd mewn nifer o ysgolion Cymraeg sydd wedi sbarduno adfywiad yn yr ymdeimlad o Gymreictod yng Nghaerdydd.

Dyna yw barn Mari Williams a enillodd Gwobr Daniel Owen yn Eisteddfod Caerdydd ddydd Mawrth (Awst 7) am ei nofel Ysbryd yr Oes.

“Mae twf yn yr ysgolion Cymraeg wedi rhoi hwb i bobol yma [yng Nghaerdydd],” meddai Mari Williams wrth golwg360.

“Mae wedi rhoi hunan hyder yn ôl. Rydych chi’n gweld llawer o faneri’r ddraig goch o gwmpas Caerdydd y dyddiau ‘ma, ac mae pawb yn falch o fod yn perthyn i’r brifddinas.”

Hi yw’r ail ddynes o Gaerdydd – mae Catrin Dafydd yn byw yno, ond yn hanu o Waelod-y-Garth – i ennill un o brif wobrau’r brifwyl eleni.

Newid enw?

Doe a Heddiw oedd enw ei nofel pan gafodd ei chyflwyno i feirniaid y wobr, ac Ysbryd yr Oes oedd ffugenw Mari Williams.

Ond mi benderfynodd roi ei ffugenw yn deitl ar y nofel.

Yn siarad â golwg360, mae’n esbonio iddi wneud hynny oherwydd mai dyna awgrym y beirniaid a’r wasg.R oedd y beirniaid, meddai,  yn meddwl bod yr enw gwreiddiol yn “ddieneiniad”.

Gallwch weld cyfweliad lawn â hi isod: