Mae academydd ifanc o Wlad Pwyl wedi cyfieithu tair o brif ddramâu Saunders Lewis i’r Bwyleg ac yn gobeithio gweld eu cyhoeddi.

I Marta Listewnik o Brifysgol Posnan, fe fyddai hynny’n ychwanegu at lwyddiant ei chyfieithiad o glasur Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad.

Fe gafodd hwnnw groeso cynnes gan tua 20 o adolygwyr gwahanol ar wefannau ac ym mhapurau’r wlad, ac fe gafodd darnau ohono eu darlledu ar y brif sianel radio yno.

‘Dramâu pwysig’

Fel gyda’r nofel, mae Marta Listewnik, sydd ar fin gorffen doethuriaeth ar agweddau o ramadeg y Gymraeg, yn credu bod gan waith Saunders Lewis apêl Ewropeaidd.

“Mae’r dramâu yn bwysig yn llenyddol,” meddai. “Maen nhw’n wych. Roedd ganddo fe feddylfryd Ewropeaidd iawn ac fe fydd hi’n hawdd i bobol o’r tu allan i Gymru ei ddeall.”

Mae wedi cyfieithu’r tair drama fawr sy’n ymwneud â menywod – Blodeuwedd, Siwan ac Esther – ac yn gweithio ar nodiadau a chefndir er mwyn eu cyhoeddi mewn cyfrol academaidd. Ar ôl hynny, meddai, y gobaith yw y gallai adran ddrama’r brifysgol eu perfformio.

Caradog a Joyce

Roedd yr ymateb i Un Nos Ola Leuad wedi bod yn ffafriol iawn, yn ôl Marta Listewnik, sydd ar faes yr Eisteddfod am rai dyddiau.

Roedd rhai yn ei chymharu, meddai, i waith cewri rhyngwladol fel y nofelydd Gwyddelig, James Joyce, ac i awduron yng nghanol Ewrop.

“Roedden nhw’n gweld symbolaeth fytholegol ynddi hi,” meddai.